Mulod Arian
Troseddau Cyfundrefnol
Ynglŷn â’r adnodd Mulod Arian
Mae gweithgarwch Mulod Arian yn broblem gynyddol mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion. Ein bwriad yw codi ymwybyddiaeth o Gamfanteisio’n Ariannol ar bobl ifanc drwy addysg ataliol.
Gweithio i atal Camfanteisio’n Droseddol ar Blant
Mae ein Swyddogion Heddlu Ysgolion yn gweithio gydag ysgolion ar draws Cymru i ddiogelu plant a phobl ifanc, Mae’r Swyddogion yn trafod y Gyfraith a’r canlyniadau sy’n gysylltiedig â chamfanteisio yn y dosbarth, gan ddefnyddio ffilmiau addas i’w hoedran a gweithgareddau dosbarth. Prif nod y Rhaglen yw atal Camfanteisio Troseddol drwy weithgarwch Mulod Arian, a lleihau’r nifer o blant sy’n mynd mewn i’r System Cyfiawnder Troseddol.
Y gynulleidfa darged ar gyfer yr adnodd hwn yw CA4. Dyluniwyd yr adnodd i gael ei gyflwyno gan Swyddogion Heddlu Ysgolion, athrawon neu weithwyr proffesiynol eraill.