Pwyllo Cyn Rhannu Arlein
Diogelwch y Rhyngrwyd
Ddylwn i rannu neu ddim?
Cafodd y gwasanaeth hwn ei ddatblygu gan SchoolBeat i atgyfnerthu prif negeseuon NSPCC ar sut i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ar-lein. Mae’r cyflwyniad yn arwain dysgwyr ar sut i rannu’n ddiogel, a’r camau y dylid eu cymryd os ydyn nhw wedi rhannu rhywbeth na ddylen nhw.
Cadw plant yn ddiogel ar-lein
Mae diogelwch ar-lein yn elfen hollbwysig o fewn Rhaglen Heddlu Ysgolion Cymru gyda gwersi yn cynnwys Cadw’n Smart, Edrychwch Pwy sy’n Siarad a Pictiwr Peryg yn cael eu cyflwyno’n gyson gan Swyddogion Heddlu Ysgolion mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru. Rydym bob amser yn diweddaru’n hunain gyda’r wybodaeth am y tueddiadau newydd ym myd cyfryngau cymdeithasol, er mwyn gallu diogelu plant rhag bod yn agored i niwed ar-lein. Ceir arweiniad i rieni gan SchoolBeat ar sut i gadw eu plant yn saff ar-lein yn yr adran Rhieni ar y wefan.
Cyflwyniad Gwasanaeth
Dyluniwyd y gwasanaeth hwn ar gyfer plant CA2 i’w ddefnyddio gan Swyddogion Heddlu Ysgolion, athrawon, gweithwyr ieuenctid a gweithwyr proffesiynol eraill.