Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

Madarch Hud

Madarch Hud (psilocybin semilanceata neu ‘liberty cap’)

Enwau Stryd

Liberty Caps, Shrooms, Liberties, Mushies, Magies

Gwybodaeth Gyffredinol

Y ffurf fwyaf cyffredin o’r ffyngau hyn sydd yn digwydd yn naturiol yw rhywogaeth o’r enw Psilocybin Semilanceata or ‘Liberty Cap’. Unwaith y bydd wedi cael ei gymryd, naill ai ar ei ben ei hun neu mewn bwyd, neu fel diod, y mae’r cyffur yn cymryd tua 30-60 munud i gael effaith. Y mae perygl difrifol o wenwyno a/neu farwolaetho gasglu a chymryd y fath anghywir.

Y mae cymryd y cyfur hwn yn creu trip sydd yn amrywio, gan ddibynnu ar dymer ac amgylchiadau’r defnyddiwr. Y mae rhai defnyddwyr yn sôn am brofiad dymunol iawn tra bod eraill yn teimlo paranoiaidd neu’n ofnus. Y mae ei ddefnyddio yn arwain at rithweledigaethau.  

Y mae madarch Psilocybin yn tyfu ym mhob rhan o Brydain yn ystod yr hydref. Gall defnyddwyr fynd ar sbri casglu yn ystod yr amser hwn, sychu’r madarch a’u storio i’w defnyddio’n hwyrach. Y mae rhai’n cael eu gwerthu ar y farchnad anghyfreithlon pan fyddant yn anhymig.

Effeithiau

  • Teimlo’n hyderus yn ymlacio ac mewn hwyliau da
  • Gallant gamlunio lliw, sŵn a phethau – e.e. y mae synhwyrau’r defnyddwyr yn cymysgu fel y byddant, er enghraifft, yn meddwl eu bod nhw’n gallu clywed lliwiau ac yn gweld swnau
  • Y mae defnyddwyr yn gallu teimlo fel petaent yn breuddwydio pan fyddant ar ddihun 
  • Teimlo’n fwy teimladwy yn emosiynol
  • Yn anwadal yn emosiynol (o bosib yn orawenus un funud ac yna’n ddychrynedig y funud nesaf)
  • Ymddangos yn bensyniol a/neu’n ddryslyd

Peryglon

  • Cyfod a chwydu
  • Dryswch
  • Damweiniau tra bod dan y dylanwad
  • Poen meddwl, gofid emosiynol (h.y. trip gwael)
  • Gwenwyno, drwy gaslu’n ddamweiniol math fwy gwenwynllyd o fadarch
  • Fel gyda sylweddau rhithbair eraill gall fod peth perygl o beri problemau secolegol a oedd gynt dan yr wyneb

Dosbarth

Dosbarth A