Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

Piperazines

Piperazines

Enwau ar y stryd

A2, Blast, BZP, Cosmic Kelly, ESP, Happy Pills, Legal E, Legal X, Nemesis, Party Pills, Pep, Rapture, Silver Bullet, Smiley’s, The Good Stuff.

Gwybodaeth gyffredinol

Dosbarth cyffredinol o gyfansoddion cemegol yw Piperazines sy’n dynwared effeithiau Ecstasi. Maent yn symbylyddion. Fe’u cynhyrchwyd yn wreiddiol fel dewis arall cyfreithlon i MDMA (Ecstasi) ond ers hynny maent wedi eu dosbarthu’n gyffuriau Dosbarth C ac maent wedi eu canfod fel cyfrwng cymysgu mewn rhai tabledi Ecstasi. Dos am ddos nid ydynt mor gryf ag Ecstasi. Gall effeithiau bara am 6–8 awr. Y Piperazines mwyaf adnabyddus yw BZP (Benzylpiperazine), TFMPP, DBZP a mCPP.

Effeithiau

  • Mae’r defnyddiwr yn cael teimladau o gynnwrf, ewfforia, bywiogrwydd, bod yn llawn egni ac ymdeimlad o les
  • Gall defnyddio’r cyffur hwn beri cynnwrf, chwydu, poenau yn y stumog, ffitiau, rythmau calon afreolaidd, dolur rhydd, adwaith alergaidd a thwymyn
  • Llai o archwaeth bwyd a theimlo’n gysglyd

Risgiau

  • Mae llawer o ddefnyddwyr yn dioddef adwaith tebyg i ben mawr am hyd at 24 awr
  • Mae Piperazines yn symbylyddion ac mae’r ffactor risg yn cynyddu pan gânt eu cymryd gan rywun sydd â phwysedd gwaed uchel neu gyflwr calon. Yn aml ni fydd pobl yn gwybod bod ganddynt gyflwr calon sy’n bodoli’n barod
  • Gall pobl ifanc cwbl iach gael ffit neu drawiad ar y galon  ar ôl cymryd cyffuriau symbylu
  • Mewn achosion prin gall defnyddwyr ddioddef o ‘syndrom serotonin’. Gall achosi pwysedd gwaed uchel a gall fod yn angheuol
  • Mae cymysgu Piperazines gydag Alcohol yn arbennig o beryglus ac oherwydd eu rhyngweithio gallant achosi colli rheolaeth, gan wneud eu defnyddio yn llawer mwy peryglus

Dosbarth

Dosbarth C