SchoolBeat.cymru
NWG Network

Diwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth Camfanteisio ar Blant

Meddyliwch, Sylwch a Siaradwch allan yn erbyn Camdriniaeth

Logo Stop C S E

18 Mawrth yw’r diwrnod blynyddol sy’n hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r camfanteisio y mae troseddwyr yn ei dargedu at blant a phobl ifanc. Po fwyaf ein bod yn gwybod am arwyddion camfanteisio, gorau po gyntaf y gallwn helpu pobl ifanc sy’n dioddef. Gwyliwch y flog fideo gan ein Swyddogion Heddlu Ysgol i ddysgu mwy, ac edrychwch ar yr adnoddau eraill ar y dudalen hon gan y Gweithgor Cenedlaethol.

Gweithio i atal Camfanteisio ar Blant

Nod Rhaglen Ysgolion Heddlu Cymru yw amddiffyn plant drwy ddarparu'r Swyddog Heddlu Ysgol fel aelod dibynadwy o gymuned yr ysgol. Mae SPOs yn gweithio drwy gydol y flwyddyn i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag camfanteisio troseddol a rhywiol a chefnogi athrawon a gweithwyr proffesiynol sydd â phryderon.

Blog Fideo Swyddog

Negeseuon i rieni a gofalwyr gan ein Swyddogion Heddlu Ysgol. Rydym yn edrych ar arwyddion camfanteisio a sut y gallwch gael help a chefnogaeth

Blog-Swyddogion-SchoolBeat-Diwrnnod-Ymwybyddiaeth-Camfantais-CYM-Trawsgrifiad (PDF)
Blog-Swyddogion-SchoolBeat-Diwrnnod-Ymwybyddiaeth-Camfantais-CYM (MP4)
SchoolBeat-Officer-Blog-National-CE-Day-ENG-Transcript (PDF)
SchoolBeat-Officer-Blog-National-CE-Day-ENG (MP4)

Posteri Ymwybyddiaeth

Mae’r posteri isod yn helpu i godi ymwybyddiaeth o gamfanteisio ac yn cyfeirio at gymorth a chefnogaeth.

Mae poster #1 yn cysylltu â Meic, llinell gymorth a gwasanaeth eiriolaeth i blant Cymru. Mae poster #2 yn cysylltu â’r gwasanaeth CYSUR a all gynnig cymorth i rieni a gweithwyr proffesiynol. Mae gan boster #3 fan gwag i gyfeirio at gefnogaeth leol benodol o’ch dewis.

1. SSIYSS poster parents - Welsh 1 QR (PDF)
2. SSIYSS poster schools - Welsh 2 QR (PDF)
3. NWG-CE-Spot-the-Signs-Poster-Welsh (PDF)

Dywedwch Rywbeth Os Ydych chi’n Gweld Rhywbeth

Ymgyrch y Gweithgor Cenedlaethol i godi ymwybyddiaeth o gamfanteisio ar blant. Drwy wylio am yr arwyddion a gwrando ar bobl ifanc, credwn y gellir helpu pobl ifanc i sefyllfa well.

Atal Camfanteisio ar Blant (NWG Network) (Dolen)
Codi Ymwybyddiaeth (NWG Network) (Dolen)
Dywedwch Rywbeth os Gwelwch Rywbeth (NWG Network) (Dolen)