Mynegai Cyffuriau a Cham-drin Sylwedd
Beth yw cyffur?
Cyffur yw rhywbeth sydd yn newid y ffordd y mae eich meddwl a’ch corff yn gweithio.
Beth yw ystyr yr ymadrodd ‘dosbarthiad cyffuriau’?
Y brif ddeddfwriaeth sydd yn dosbarthu cyffuriau anghyfreitlon yn nosbarth A, B neu C yw Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971. Adnabyddir y cyffuriau hyn fel sylweddau dan reolaeth, a chyffuriau Dosbarth A ydy’r rhai a ystyrid yn fwyaf niweidiol. Y mae tramgwyddau dan y ddeddf yn cynnwys:
- Meddiant sylwedd dan reolaeth yn aghyfreithlon
- Meddiant sylwedd dan reolaeth gan fwriadu ei gyflenwi
- Cyflenwi neu gynnig cyflenwi cyffur dan reolaeth (hyd yn oed pan na fydd codiad tâl am y cyffur)
- Gadael i adeilad y byddwch chi’n byw ynddo neu’n ei reoli gael ei ddefnyddio’n anghyfreithlon ar gyfer cynhyrchu neu gyflenwi cyffuriau dan reolaeth
Y mae pob tramgwydd yn cario cosb wahanol.
Cliciwch ar y dosbarth isod i ymweld a'r dudalen perthnasol:
Cliciwch isod i gael gwybodaeth | Meddiant ar gyfer defnydd personol | Meddiant gan fwriadu ei gyflenwi | Atafaeliad asedau |
Dosbarth A | Hyd at 7 blynedd yn y carchar a/neu ddirwy ddiderfyn | Hyd at oes yn y carchar a/neu ddirwy ddiderfyn | Os bydd rhywun yn cael ei ddal yn gwneud elw o drosedd, y mae’r Heddlu yn gallu atafaelu’n gyfreithlon asedau’r troseddwr e.e. tŷ, cyfrif banc ayyb ac yn aml y mae’r arian wedyn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith ataliad. |
Dosbarth B | Hyd at 5 mlynedd yn y carchar a/neu ddirwy ddiderfyn | Hyd at 14 blynedd yn y carchar a/neu ddirwy ddiderfyn | |
Dosbarth C | Hyd at 2 flynedd yn y carchar a/neu ddirwy ddiderfyn | Hyd at 14 blynedd yn y carchar a/neu ddirwy ddiderfyn | |
Di-ddosbarth |
|