Popwyr
Popwyr (Amyl Nitrad, Butyl Nitrad, Isobutyl Nitrad)
Enwau ar y stryd
Amyls, kix, Liquid gold, Ram, Rock hard, Rush, Thrust, TNT
Gwybodaeth gyffredinol
Ceir Popwyr fel arfer ar ffurf cemegyn hylif (nitrad) a werthir mewn potel fechan. Yn gyffredinol, Amyl nitrad yw’r cemegyn. Mae nitradau eraill tebyg i amyl nitrad (a butyl nitrad a isobutyl nitrad) wedi cael eu defnyddio hefyd. Mae nitradau yn ymagor y pibellau gwaed ac yn caniatáu i ragor o waed i gyrraedd y galon. Cânt eu ffroeni yn uniongyrchol o’r botel ac mae ganddynt arogl chwerw cryf.
Effeithiau
Mae gan Popwyr (nitradau) ystod o effeithiau:
- Maent yn rhoi rhuthr i’r pen sy’n para ychydig funudau
- Gwell profiadau rhywiol
- Llosgiadau cemegol i feinwe’r corff - gyda brech yn datblygu o amgylch y trwyn a’r geg, a/neu lid yn y trwyn a’r gwddf
- Gallant adael rhai pobl yn teimlo’n sâl neu mewn llewyg gyda chydsymud gwael
- Marw – os cânt eu llyncu; neu os cânt eu defnyddio gan unigolion sydd â phroblemau’r galon
Risgiau
- Mae cymryd Popwyr yn gallu bod yn beryglus i unrhyw un gyda phroblemau’r galon, anaemia neu glawcoma (clefyd ar y llygad)
- Gallant achosi i’ch pwysedd gwaed ostwng i lefel beryglus. Ni ddylech felly eu cymryd os oes gennych broblem gyda’ch pwysedd gwaed, neu os ydych ar feddyginiaeth pwysedd gwaed, neu os ydych yn cymryd Viagra
- Gallwch farw o ganlyniad i niwed i gelloedd coch y gwaed a llai o gyflenwad ocsigen i organau hollbwysig
- Gallech fynd yn anymwybodol a marw drwy dagu ar eich chwŷd eich hun
- Gall defnyddio Popwyr gydag alcohol gynyddu’r risg hwn
- Cysylltir Popwyr gydag ymddygiad rhywiol llawn risg a gall arwain at ddal clefyd a drosglwyddir yn rhywiol
- Gallant losgi eich croen wrth ei gyffwrdd a gallant eich lladd os byddwch yn eu llyncu
- Maent yn fflamadwy iawn
- Gallant achosi cyfog, cur pen a cholli synnwyr cyfeiriad
- Soniwyd am ‘sudden sniffing death syndrome’ angheuol o ganlyniad i rythm afreolaidd y galon wrth gymryd poppers
- Tymor hir: Cur pen am gyfnodau hir, cyfradd curiad y galon is, pwysedd gwaed isel
Dosbarth
Di-ddosbarth