Tybaco
Tybaco Nicotin
Enwau ar y stryd
Tybaco, Sigarets, Baccy, Ciggies, Ffags, Bifters, Rollies, Snuff, Smôc, Snout
Gwybodaeth gyffredinol
Daw Tybaco o ddail y planhigyn tybaco. Mae’n cynnwys cyffur o’r enw Nicotin, sy’n hynod gaethiwus, a’r Nicotin sy’n rhoi’r 'hit' i ysmygwyr.
Mae ysmygu unrhyw gyffur yn ei gael i’ch ymennydd yn gyflym. Pan fydd ysmygwr yn mewnanadlu, bydd y Nicotin yn cyrraedd yr ymennydd mewn tua 8 eiliad. Dywed ysmygwyr rheolaidd ei fod yn eu helpu i ymlacio, yn lleihau pryder ac yn eu gwneud i deimlo’n llai llwglyd.
Ers mis Hydref 2007 mae wedi bod yn anghyfreithlon i werthu cynhyrchion tybaco i unrhyw un dan 18 oed yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae hyn hefyd yn cynnwys cynhyrchion megis sigaréts, sigârs, tybaco rholio eich hun, pibellau/cetyn a phapurau rholio.
Effeithiau
- Teimlo wedi ymlacio, lleihau pryder
- Ysmygwyr yn teimlo’n llai llwglyd
- Bydd ysmygwyr y tro cyntaf yn aml yn teimlo’n sâl a phen ysgafn
- Gall ysmygu wneud i’ch dillad ddrewi
- Mae ysmygwyr yn fwy tebygol o gael peswch a heintiau ar y frest
- Mae Nicotin yn cyflymu cyfradd y galon ac yn cynyddu pwysedd gwaed.
Risgiau
- Gall ysmygu achosi difrod difrifol i’ch iechyd - mae ysmygu yn ffactor risg ar gyfer emffysema, trawiadau ar y galon, strôc a chanser yr ysgyfaint
- Goddefedd
- Anafiadau llosgi o ganlyniadau i danau a ddechreuir yn ddamweiniol
- Mae ysmygu gan ddefnyddio pibell/cetyn/shisha yn peri yr un risgiau a phroblemau iechyd ag a geir drwy ysmygu sigarét
- Gallai pobl eraill sy’n anadlu eich mwg gael anawsterau anadlu, asthma neu ganser yn y pen draw
- Dibyniaeth, broncitis, clefyd y galon, difrod i gylchrediad y gwaed, canserau (ysgyfaint, gwddf, tafod)
- Gall ysmygu tybaco tra’n feichiog arwain at niwed i’r ffoetws a phwysau geni isel
- Amcangyfrifir bod ysmygu yn cyfrannu at 120,000 o farwolaethau cyn pryd yn y DU bob blwyddyn
- Mae ysmygu wedi ei gysylltu i orfod torri 2,000 o freichiau/coesau i ffwrdd bob blwyddyn
Dosbarth
Di-ddosbarth
Mae’n anghyfreithlon i werthu tybaco i rai dan 18 oed