Stelcian ac Aflonyddu
Ymddygiadau Digroeso a Niweidiol
Am yr adnodd hwn
Mae llawer o bobl ifanc yn anymwybodol o beth yn union ydi stelcian ac aflonyddu, ac fod yr ymddygiadau hyn yn erbyn y gyfraith. Mae’r adnodd hwn yn helpu pobl ifanc i adnabod yr arwyddion a gwybod beth i’w wneud petaen nhw’n derbyn y sylw digroeso a niweidiol hyn. Bydd pobl ifanc yn darganfod sut a ble i gael cymorth.
Atal Stelcian ac Aflonyddu
Mae ein Swyddogion Heddlu Ysgolion ar draws Cymru yn gweithio gydag ysgolion i ddiogelu plant a phobl ifanc. Maen nhw’n trafod y Gyfraith ac yn archwilio dewisiadau a chanlyniadau sy’n ymwneud â pherthnasoedd iach yn y dosbarth trwy ddefnyddio ffilmiau ac adnoddau addas. Prif amcan y Rhaglen ydi atal niwed o ganlyniad i ymddygiadau’n ymwneud â Stelcian ac Aflonyddu, ac i leihau nifer y plant sy’n mynd mewn i’r System Cyfiawnder Troseddol trwy ddulliau addysg ataliol.