Datrys y Broblem

Ffaith Allweddol

Beth yw Camddefnyddio Sylweddau Anweddol (CSA)?

Cyffuriau yw toddyddion a sylweddau anweddol a anedlir yn fwriadol drwy’r geg neu’r trwyn dim ond er mwyn meddwi.

Gair o Gyngor

Cofiwch

  • Peidiwch ag arbrofi gyda thoddyddion a SA gan eu bod yn gemegau peryglus a all gael effaith andwyol ar eich iechyd a’ch lles.
  • Cemegau sy’n anweddu ar dymheredd ystafell ac yn allyrru anwedd yw sylweddau anweddol. Maent yn cynnwys petrol, nwy bwtan ac erosolau. Gall yr anweddau fod yn beryglus, felly storiwch nhw mewn man diogel bob amser.
  • Storiwch doddyddion allan o afael brodyr a chwiorydd iau bob amser.
  • Os ydych yn gwybod am unrhyw un sy’n camddefnyddio toddyddion neu SA peidiwch â bod yn feirniadol, cynigiwch gefnogaeth a dealltwriaeth a’u hannog i geisio help proffesiynol.
  • Ffoniwch Dan 24/7. Gallant roi gwybodaeth a chyngor cyfrinachol dros y ffôn. Mae am ddim, ac mae ar agor 24 awr y dydd.

Pethau i Wneud i Chi Feddwl!

Meddai PC Jones:

  • Mae SA yn rhithbeth pwerus, sy’n golygu pan gaiff ei arogli, gall pobl ifanc roi eu hunain mewn perygl a gallai hyn arwain at ddamweiniau trasig.
  • Gall CSA ar unrhyw ffurf achosi marwolaeth ar unwaith ar unrhyw bryd. Gelwir hyn yn syndrom marwolaeth arogli sydyn.
  • Mae CSA yn lladd mwy o blant a phobl ifanc rhwng 10-16 oed na’r holl gyffuriau anghyfreithlon eraill gyda’i gilydd.
  • Ar gyfartaledd ceir un farwolaeth bob blwyddyn yn y DU o ganlyniad i ‘fewnanadlu’ toddyddion, oedran mwyaf cyffredin marwolaeth yw rhwng 15 ac 16.

Cyflwyniad

Bydd eich swyddog heddlu ysgol yn eich helpu i ddeall

  • peryglon camddefnyddio sylweddau anweddol,
  • bod i weithredoedd ganlyniadau, a
  • lle i gael help, cefnogaeth a chyngor.

Cyngor PC Blake

Cwestiwn ac Ateb

Cwestiwn: Beth yw’r gyfraith ynglŷn â Sylweddau Anweddol (SA)?
Ateb:

Mae’n drosedd i gyflenwi neu gynnig cyflenwi Sylweddau Anweddol i unrhyw un o dan 18 oed neu rywun sy’n gweithredu ar eu rhan.

Pasiwyd y ddeddf hon oherwydd bod pobl ifanc yn niweidio eu hunain drwy gam-drin sylweddau.

Cwestiwn: Pam fod camddefnyddio SA mor beryglus?
Ateb: Mae sylweddau anweddol yn iselyddion. Maent yn arafu’r system nerfol a gallant achosi anymwybodedd, marwolaeth, mygu, tagu neu chwydu, neu arwain at ddamweiniau angheuol naill ai oherwydd fflamadwyedd uchel sylweddau anweddol neu oherwydd damweiniau pan fo pobl yn rhithweld.
Cwestiwn: Ble allaf fynd am help yn lleol?
Ateb: Mae gwybodaeth am asiantaethau cefnogaeth lleol i’w chael yn yr adran athrawon o dan y pennawd llinellau cymorth.

Am gymorth ynglŷn â chyffuriau, ffôniwch Dan 24/7 ar

0808 808 2234

Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o llinellau tir.

Mae cost galwad o ffôn symudol yn amrywio gan ddibynnu ar eich darparwr.

dan247.org.uk/Default_Wales.asp

Mae Drink Line yn rhoi gwybodaeth gyfrinachol a chyngor am broblemau cysylltiedig ag alcohol a gall eich cyfeirio chi at asiantaeth leol. Gallwch eu ffonio nhw ar

0800 917 8282

Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o llinellau tir.

Mae cost galwad o ffôn symudol yn amrywio gan ddibynnu ar eich darparwr.