Yn yr adran hon ceir gwaith dilynol ar gyfer athrawon i gefnogi pob gwers yn y Rhaglen Ysgolion Heddlu Cymru. Mae ynddi syniadau a’r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer cyflwyno’r gwaith. Ynddi hefyd ceir gwybodaeth megis manylion cyswllt swyddogion; protocolau perthnasol; rhestr o hyperddolenni awgrymedig; adroddiadau gwerthuso a fforwm ar gyfer awgrymiadau ac adborth ar y gweithgareddau a ddarperir.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, wedi datblygu prosiect ar gyfer adnabod cyffuriau newydd a thueddiadau o ran defnyddio ledled Cymru, yn arbennig ymysg pobl ifainc. Medrwch ddarllen eu cylchlythyr er mwyn cael gwybodaeth am gyffuriau a’r tueddiadau diweddaraf.
Mae prosiect WEDINOS yn caniatáu ar gyfer profi samplau sylweddau anhysbys am ddim. Gall sefydliadau, megis ysgolion, anfon sylweddau.