Dewis Kiddo: Y Canlyniadau Trosedd

Ffaith Allweddol

Beth yw Ymddygiad Gwrthgymdeithasol?

Ymddygiad gwrthgymdeithasol yw unrhyw ymddygiad y tybiwch chi allai gynhyrfu rhywun ac sy’n anghywir neu yn erbyn y gyfraith.

Beth yw ASBO?

ASBO yw Gorchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Gall unrhyw un dros 10 oed gael ASBO gan y Llysoedd. Mae'n beth difrifol iawn a bydd yn para am o leiaf dwy flynedd.

Os oes gennych ASBO mae rheolau ynglŷn â beth allwch chi wneud a beth na allwch wneud.

Gair o Gyngor

Cofiwch

  • Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn groes i’r gyfraith.
  • Meddyliwch bob amser sut mae eich ymddygiad yn effeithio ar eraill.
  • Weithiau gall ymddygiad gwael chwyddo i gael canlyniadau difrifol iawn i chi ac eraill.
  • Peidiwch â phlygu i bwysau cyfoedion. Byddwch yn chi eich hun a gwnewch benderfyniadau cadarnhaol.
  • Parchwch bobl eraill yn eich cymuned a byddant hwy’n eich trin chi â pharch.
  • Parchwch eich amgylchedd fel ei fod yn lle pleserus i fyw ynddo.

Pethau i Wneud i Chi Feddwl!

Cwestiwn: Mae fy ffrind yn dweud bod gan ei chariad ASBO. Mae’n meddwl bod hyn yn cŵl. Beth yw ASBO?
Ateb:

Dim ond rhai pobl ifanc sy’n cael ASBO ac maen nhw’n ddifrifol iawn - dw i ddim yn meddwl eu bod nhw’n cŵl o gwbwl. Bydd ASBO yn para am o leiaf ddwy flynedd a gellir eu rhoi am oes.

Mae pob ASBO wedi ei fwriadu i reoli ymddygiad person. Efallai y cewch gyrffiw ac y dywedir wrthych na chewch fynd i ardaloedd arbennig. Gall hyn olygu na allwch weld eich ffrindiau na’ch teulu. Mae gan rai pobl ifanc dag trydanol i orfodi’r rheolau.

Os byddwch yn torri rheolau ASBO gallwch gael eich anfon i sefydliad troseddwyr ifanc.

Cyflwyniad

Bydd eich swyddog heddlu ysgol yn eich helpu i ddysgu beth allai ddigwydd i chi, eich teulu, eich ffrindiau a’ch cymuned os ydych yn ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol, neu’n cyflawni trosedd.

Cyngor PC McCready

Cwestiwn ac Ateb

Cwestiwn: Pa fathau o ymddygiad sy’n wrthgymdeithasol?
Ateb: Gall fod yn stwrllyd, sefyllian mewn grwpiau mawr ar gornel stryd, cnocio drysau a rhedeg i ffwrdd, chwarae pêl-droed yn y stryd, graffiti, gollwng sbwriel neu unrhyw ymddygiad sy'n poeni pobl eraill.
Cwestiwn: Beth fydd yn digwydd i mi os ydw i’n rhan o grŵp ar y stryd sy’n yfed alcohol a bod yn stwrllyd?
Ateb: Gal yr heddlu fynd â’r alcohol oddi arnoch a mynd â chi adref at eich rhieni.
Cwestiwn: Beth os nad ydw i fy hun wedi bod yn yfed nac yn wrthgymdeithasol?
Ateb: Cewch eich trin yn yr un ffordd â gweddill y bobl ifanc yn y grŵp.
Cwestiwn: A oes llawer o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol?
Ateb: Na, lleiafrif bach sy’n gwneud hynny.

Os oes angen help arnoch, ffôniwch ChildLine ar

0800 1111

Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o ffônau symudol a llinellau tir.

Ni fydd y rhif yn ymddangos ar filiau ffôn.

Os ydych angen riportio trosedd, galwch CrimeStoppers ar

0800 555 111

Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o llinellau tir.

Mae cost galwad o ffôn symudol yn amrywio gan ddibynnu ar eich darparwr.