Cwestiwn: A fyddaf yn fwy diogel os byddaf yn cario cyllell?
Ateb: Yn sicr na, mae wedi ei brofi os byddwch yn cario cyllell rydych mewn llawer mwy o berygl o fod yn ddioddefwr trosedd cyllyll! Os yw’n hysbys eich bod yn cario cyllell bydd pobl eraill yn disgwyl i chi ei defnyddio, ac yn ei dro gallant ddefnyddio arf arall neu eich arf eich hun yn eich erbyn chi.
Cwestiwn: Prynodd Dad-cu gyllell boced i mi ar fy mhen-blwydd. A yw hi’n gyfreithlon i gael un?
Ateb: Nid yw cyllyll poced yn arfau tramgwyddus, oni bai bod yr ymyl torri yn fwy na 3 modfedd neu nad yw’n hawdd ei phlygu ar bob adeg.
Cwestiwn: Mae bachgen yn fy ysgol i wedi bod yn brolio am gyllell y mae’n dweud sydd ganddo ar ei berson ar bob adeg ‘dim ond rhag ofn y bydd trafferth’. Fe’i gwelais i hi ddoe ac mae’n edrych yn beryglus! Beth ddylwn ei wneud?
Ateb: Mae’n anghyfreithlon i gario arf tramgwyddus, felly mae’r bachgen yn torri’r gyfraith. Mae’n peryglu ei ddiogelwch ei hun a diogelwch eraill. Mae gennych hawl i deimlo’n ddiogel yn eich ysgol a’ch cymuned. Gallwch riportio’r drosedd hon yn ddienw i Taclo’r Taclau ar 0800 555 111. Dylech hefyd siarad ag athro neu athrawes yn eich ysgol. Mae gan ysgolion y pwerau i chwilio disgyblion am arfau, a gallant alw’r heddlu i’w helpu mewn sefyllfaoedd o’r fath.