Gwedd Gwallgofrwydd

Faith Allweddol

Beth yw SIEDau?

Mae SIEDau yn cyfeirio at Steroidau a Chyffuriau Gwella Delwedd. Maent yn sylweddau a ddefnyddir gan bobl i wella eu perfformiad neu edrychiad.

Gair o Gyngor

Cofiwch

  • Mae Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 yn nodi bod Steroidau Anabolig yn gyffuriau Dosbarth C. Gallech gael eich carcharu am hyd at 14 mlynedd am gyflenwi Steroidau Anabolig i bobl eraill.
  • Mae athletwyr proffesiynol yn gorfod gwneud prawf cyffuriau ar hap. Os yw’r canlyniad yn un positif gallent wynebu cael eu gwahardd am oes rhag cymryd rhan mewn chwaraeon proffesiynol.
  • Gallai rhai proffesiynau fynnu eich bod yn gwneud prawf cyffuriau pan fyddwch yn ymgeisio am swydd ac fe allent hefyd gynnal profion cyffuriau ar hap pan fyddwch wedi cael eich cyflogi. Os yw’r canlyniad yn un positif, fe allech golli eich swydd.
  • Mae tabledi a phigiadau lliw haul yn anghyfreithlon ac yn aml iawn maent yn beryglus gan nad ydynt wedi cael eu profi. Nid yw effeithiau hirdymor eu defnyddio wedi eu profi hyd yma. Mae gwerthu pigiadau neu dabledi lliw haul hefyd yn anghyfreithlon.
  • Mae’n anghyfreithlon i fusnes gwlâu haul adael i unrhyw un o dan 18 oed ddefnyddio gwely haul.
  • Ar hyn o bryd, does dim cyfreithiau yn erbyn gwerthu diodydd egni er ein bod yn gwybod eu bod yn cael effaith niweidiol ar eich corff a’ch iechyd.
  • Mae’r defnydd o Botox wedi ei wahardd mewn plant o dan 18 oed – oni bai ei fod yn cael ei roi gan feddyg at gyflwr meddygol. Byddai angen caniatâd rhiant i hyn.
  • Mae’n anghyfreithlon i unrhyw un roi tatŵ i rywun o dan 18 oed.

Pethau i Wneud i Chi Feddwl!

  • Mae cyfran fawr o hun-luniau (selfies) anweddus sydd wedi cael eu postio ar y Rhyngrwyd yn dod yn rhan o gasgliad troseddwyr rhyw yn y pen draw.
  • Mae’r heddlu yn gallu adfer lluniau o ffonau symudol a dyfeisiau electronig eraill hyd yn oed os ydynt wedi cael eu dileu.
  • Dylai bechgyn a merched sy’n dewis anfon hun-lun noeth at eu cariad ystyried beth all ddigwydd i’r llun os bydd y berthynas yn dod i ben. Mae rhai pobl ifanc wedi anfon y lluniau hyn at bobl eraill yn eu cyfeirlyfr gan achosi embaras mawr i’w cyn gariad ac effeithio arno/arni flynyddoedd i ddod.
  • Mae llawer o bobl ifanc sydd wedi anfon hun-lun wedi cael eu bwlio neu eu blacmelio.
  • Bydd rhoi gwybod i rywun am achos o gam-drin neu fwlio yn helpu i roi stop arno.
  • Gall cyfrifon rhwydweithiau cymdeithasol gael eu targedu gan hacwyr ar-lein: maen nhw'n gallu mynd i mewn i negeseuon pobl a lawrlwytho delweddau maen nhw wedi’u hanfon yn breifat at bobl eraill.
  • Os bydd yr Heddlu yn ymchwilio i berson ifanc mewn perthynas â throsedd sy’n gysylltiedig â chreu, anfon neu bostio delwedd anweddus o blentyn (o dan 18) mae’r canlyniadau’n ddifrifol. Gall y person ifanc gael ei roi ar Gofrestr Troseddwyr Rhyw am oes. Byddai hyn yn effeithio ar unrhyw gyflogaeth neu drefniadau teithio yn y dyfodol. Os bydd cyflogwr yn gofyn am wiriad yr heddlu, i weld a yw’n addas ar gyfer swydd, gall unrhyw drosedd y mae’r person ifanc yn gysylltiedig â hi gael ei datgelu.

Cyflwyniad

Bydd eich swyddog heddlu ysgol yn eich helpu i ddeall

  • y ffeithiau ynglŷn â Steroidau a Chyffuriau Gwella Delwedd (a elwir yn SIEDau),
  • a'r peryglon sy’n gysylltiedig â chymryd SIEDau.

Cyngor PC Kev

Cwestiwn ac Ateb

Cwestiwn: Yw Steroidau Anabolig yn gyfreithlon?
Ateb: Mae Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 yn nodi bod Steroidau Anabolig yn gyffur dosbarth C. Gallech gael eich carcharu am 14 mlynedd am gyflenwi pobl eraill â Steroidau Anabolig.
Cwestiwn: Yw Steroidau Anabolig yn gwneud i chi dyfu bronnau?
Ateb:

Mewn dynion, gall defnyddio Steroidau achosi tyfiant bronnau a elwir yn Gynecomastia – sef datblygiad meinwe bron benywaidd.

Mewn merched fodd bynnag, gall gael effaith i’r gwrthwyneb – gan leihau meinwe bron a maint y bronnau.

Cwestiwn: Yw Steroidau Anabolig yn eich gwneud yn flewog?
Ateb: Oherwydd mai testosteron a gynhyrchir yn synthetig yw steroidau – mae tebygrwydd y bydd merched yn profi tyfiant blew annymunol. Efallai y bydd eu llais yn dyfnhau hefyd o ganlyniad i’r lefel uchel o destosteron. Fodd bynnag, gallai dynion brofi moelni o ganlyniad i orddefnydd o Steroidau Anabolig.
Cwestiwn: Yw Steroidau Anabolig yn gallu newid eich rhyw?
Ateb:

Na – Nid yw steroidau yn gallu newid eich rhyw.

Er y gall lleisiau merched ddyfnhau ac y byddant yn tyfu blew ac y bydd dynion yn datblygu meinwe bron benywaidd – byddant yn parhau i fod yr un rhyw.

Cwestiwn: Yw Steroidau Anabolig yn rhoi cyhyrau mwy i chi?
Ateb: Na, yr oll maent yn ei wneud yw eich galluogi chi i allu hyfforddi’n galetach. Nid dyma’r ateb i ddelwedd corff iach.
Cwestiwn: Yw hi’n iachach defnyddio gwely haul yn hytrach na phigiadau lliw haul?
Ateb: Does dim un o’r rhain yn ffyrdd diogel o gael lliw haul. Mae’n anghyfreithlon i fusnes gwlâu haul ganiatáu i unrhyw un o dan 18 i ddefnyddio gwely haul. Nid yw tabledi na phigiadau wedi eu trwyddedu yn y DU. Ychydig iawn o ymchwil sydd wedi’i wneud am dabledi a phigiadau lliw haul felly nid yw pobl yn gwybod beth yw’r sgil effeithiau.
Cwestiwn: Beth yw’r gwahaniaeth rhwng diod egni a diod chwaraeon?
Ateb: Fel arfer mae diodydd chwaraeon yn cynnwys digon o ddŵr er mwyn ail-hydradu corff sydd wedi dihydradu. Byddant hefyd yn cynnwys llawer o halen a photasiwm i wneud yn iawn am y mwynau y byddwch yn eu colli wrth chwysu, byddant yn cynnwys llawr o siwgr er mwyn rhoi egni i chi’n gyflym a llawer o flas rhag i’r ddiod flasu fel chwys. Maent wedi eu gwneud ar gyfer eu hyfed yn ystod gweithgareddau corfforol.
Ateb: Mae diodydd egni yn cael eu marchnata am eu heffeithiau adfywio meddyliol. Maent yn cynnwys fitaminau B a lefelau uchel o gaffein, tawrin a glucuronolactone sy’n rhoi hwb i fywiogrwydd ac yn cyflymu cyfradd y galon ac yn achosi dihydriad, sy’n gallu bod yn beryglus.
Cwestiwn: Beth sy’n digwydd i gyhyrau pan fyddwch chi’n stopio cymryd Steroidau?
Ateb: Bydd y cyhyrau yn colli eu diffiniad yn raddol - oni bai bod yr unigolyn yn penderfynu datblygu amserlen ymarfer gaeth a'u bod yn dilyn diet iach.
Cwestiwn: Yw eich ceilliau yn tyfu nôl ar ôl i chi stopio cymryd Steroidau Anabolig?
Ateb:

Gallai hyn amrywio o unigolyn i unigolyn.

Pan fydd Steroidau Anabolig yn cael eu defnyddio, bydd y corff yn stopio cynhyrchu testosteron ei hun. Pan fyddwch chi’n stopio defnyddio Steroidau - bydd y corff yn gorfod dechrau cynhyrchu testosteron ei hun. Gall hyn gymryd peth amser ac efallai na fydd rhai dynion yn cynhyrchu'r un faint o destosteron eto. Mae hyn yn arwain at geilliau llai, lefel isel o sberm a ffrwythlondeb wedi’i amharu arno.

Cwestiwn: Beth os byddaf yn cymryd Steroidau Anabolig yn ystod y cyfnod glasoed?
Ateb: Os nad yw eich corff wedi datblygu’n llawn eto, bydd cymryd Steroidau Anabolig yn amharu ar eich tyfiant ac os byddwch yn rhoi’r gorau i’w cymryd, ni fydd eich corff yn dod ato’i hun. Os byddwch yn cymryd Steroidau pan fyddwch yn y cyfnod glasoed, gallwch amharu ar lefelau cynhyrchiant testosteron yn barhaol.
Cwestiwn: Yw Steroidau yn gallu gwneud unigolyn ymddwyn y fygythiol?
Ateb: Ydyn – mae steroidau yn gallu gwneud i chi ymddwyn yn fygythiol. Dyma un o amrywiaeth o symptomau seicolegol y gellid eu profi o ganlyniad i gymryd Steroidau. Gall pobl brofi newidiadau dramatig i’w tymer a bod yn dreisgar tuag at eraill. Mae symptomau seicolegol eraill yn cynnwys insmonia, gorbryder, iselder a dysmorphia corfforol.
Cwestiwn: Oes yna unrhyw ffordd o wybod os yw llun wedi cael ei aerfrwshio?
Ateb: Does dim ffordd o wybod os yw llun wedi cael ei aerfrwshio. Os yw’n ymddangos fel ei fod yn rhy berffaith – mae’n debyg ei fod wedi cael ei aerfrwshio.
Cwestiwn: Yw hi’n anghyfreithlon i bobl o dan 18 gael tatŵ?
Ateb: Mae Deddf Tatŵau Plant dan Oed 1969 yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon i unrhyw un roi tatŵ i chi os ydych chi o dan 18 oed – er mae’r trosedd gyda’r unigolyn sy’n rhoi’r tatŵ yn hytrach na’r unigolyn sy’n gofyn amdano. Mae canllawiau newydd yn awgrymu y dylai artist tatŵ ofyn am weld prawf o’ch oedran ac y dylai gofnodi hyn cyn cytuno i roi tatŵ i chi.
Cwestiwn: Yw tabledi colli pwysau yn anghyfreithlon?
Ateb: Dim ond ychydig o gyffuriau colli pwysau trwyddedig sydd ym Mhrydain. Mae hyn oherwydd bod y Llywodraeth wedi gwahardd mathau penodol o dabledi colli pwysau sydd wedi’u gweld eu bod yn achosi sgil effeithiau ac mewn rhai achosion, marwolaeth. Oni bai eu bod yn cael eu rhoi gan y meddyg, byddant yn anghyfreithlon ac yn beryglus i’w defnyddio. Yr unig ffordd o golli pwysau yw drwy fwyta’n iach ac ymarfer yn rheolaidd.
Cwestiwn: Yw hi’n ddiogel defnyddio diodydd protein i ddatblygu eich cyhyrau?
Ateb: Mae diodydd protein yn opsiwn diogelach o gymharu â chymryd Steroidau Anabolig, ond yn y tymor hir bydd bwyta’r bwydydd cywir ac ymarfer yn gywir yn datblygu eich cyhyrau. Does dim ateb cyflym felly datblygwch eich corf yn raddol.
Cwestiwn: Beth mae Botox yn ei wneud ac ydi o’n anghyfreithlon?
Ateb:

Mae Botox yn sylwedd gwenwynig sydd, pan fydd yn cael ei chwistrellu, yn ymlacio cyhyrau’r wyneb er mwyn gwneud crychau a llinellau yn llai amlwg. Mae’r defnydd o Botox yn anghyfreithlon ar gyfer pobl ifanc o dan 18 oed, oni bai y’i rhoddir ar bresgripsiwn gan feddyg i drin cyflwr meddygol. Byddai angen caniatâd rhiant i hyn.

Byddai Botox mewn pobl o dan 18 oed fel arfer yn cael ei ddefnyddio i drin cyflyrau meddygol megis chwysu gormodol neu barlys ymennydd er mwyn lleihau cyfangiadau cyhyrol.

Ar hyn o bryd, gall pobl megis gweithwyr harddwch sydd â dim hyfforddiant meddygol roi pigiadau Botox, er ei fod yn niwrotocsin cryf. Mae’r Llywodraeth wedi bod yn asesu a oes angen cyfreithiau mwy llym er mwyn sicrhau mai dim ond meddygon, nyrsys a deintyddion sydd â’r hawl i roi triniaethau cosmetig o’r fath yn y dyfodol.

Os oes angen help arnoch, ffôniwch ChildLine ar

0800 1111

Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o ffônau symudol a llinellau tir.

Ni fydd y rhif yn ymddangos ar filiau ffôn.

Linell Gymorth Byw Heb Ofn

0808 8010 800

Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o llinellau tir.

Mae cost galwad o ffôn symudol yn amrywio gan ddibynnu ar eich darparwr.

Mae Hafan Cymru yn cefnogi dioddefwyr troseddau rhywiol.

hafancymru.co.uk

Gallwch hefyd ffonio NSPCC Cymru ar

0808 100 25 24

Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o llinellau tir.

Mae cost galwad o ffôn symudol yn amrywio gan ddibynnu ar eich darparwr.