Hawliau a Chyfrifoldebau

Ffaith Allweddol

Beth yw hawliau?

Hawliau yw beth sydd gan bawb yr hawl iddynt.

Pam y mae cyfrifoldebau yn bwysig?

Oherwydd eu bod yn dweud wrthym sut y dylem ymddwyn tuag at eraill. Rydym yn atebol am ein gweithredoedd.

Gair o Gyngor

Cofiwch

  • Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) yn gytundeb rhyngwladol sy'n amddiffyn hawliau dynol plant o dan 18 oed. Mae pob gwlad yn y byd ar wahân i un wedi arwyddo'r cytundeb.
  • Mae’r UNCRC yn rhoi hawliau personol i blant, megis yr hawl i enw a chenedl a rhyddid meddwl.
  • Mae’n rhoi hawl mynediad i blant at wasanaethau megis dŵr glân a bwyd, addysg a chefnogaeth y wladwriaeth ar gyfer teulu'r plentyn.
  • Mae gan blant yr hawl i gael eu hamddiffyn rhag ecsploetiaeth, trais, esgeulustod a cham-drin.

Pethau i Wneud i Chi Feddwl!

Meddai PC Jones:

Mae Confensiwn yn gytundeb rhwng gwledydd i ufuddhau i'r un gyfraith. Pan fydd Llywodraeth gwlad yn cadarnhau confensiwn golyga hyn ei bod yn cytuno i ufuddhau i'r gyfraith a nodir yn y confensiwn.

Hawliau dynol yw'r hyn sydd ei angen ar bob bod dynol i fyw bywyd llawn urddas a chyflawn ac i gyfranogi'n llawn mewn cymdeithas. Maent yn hawliau - mae’r rhain gennych am eich bod yn fod dynol.

Dywed hen ddihareb Affricanaidd “mae angen pentref i godi plentyn”, mae hyn yn nodi cyfrifoldeb pawb ohonom i ofalu am ein gilydd. Daw cymunedau yn fwy diogel pan fydd pawb ohonom yn arfer cyfrifoldeb dros sicrhau bod hawliau pawb yn cael eu diogelu a'u gwarchod.

Mae hawliau a chyfrifoldebau yn ddwy ochr i'r un geiniog; pan fydd gennym rym neu adnoddau mae cyfrifoldeb arnom i'w defnyddio'n dda.

Cyflwyniad

Bydd eich swyddog heddlu yn eich helpu i ddeall beth a olygir gan anghyfiawnder, ecsploetiaeth a gwadiad hawliau dynol.

Cyngor PC McCready

Cwestiwn ac Ateb

Cwestiwn: Mae ffrind i mi yn yr ysgol yn gofidio oherwydd bod ei rhieni wedi dweud wrthi y bydd hi'n gadael yr ysgol ar ddiwedd y tymor ac yn gorfod priodi dyn nad yw hi wedi ei gyfarfod erioed. A all fy ffrind wneud unrhyw beth i atal hyn?
Ateb:

Cyflwynwyd cyfreithiau yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon i atal priodi dan orfod ac amddiffyn y rhai hynny sydd wedi dod yn ddioddefwyr yn barod. Golygodd y cyfreithiau bod unrhyw un a euogfernir o geisio gorfodi rhywun i briodas yn agored i gael ei garcharu am hyd at ddwy flynedd.

Gall dioddefwr, ffrind neu'r heddlu wneud cais am Orchymyn Amddiffyn Priodi dan Orfod. Bydd y gwaharddebau llys hyn yn rhwystro teuluoedd rhag gweithredoedd megis mynd â phobl dramor ar gyfer eu priodi, atafaelu pasbort neu brawychu dioddefwyr. Mae cosbau am dorri gorchymyn yn cynnwys carchar am hyd at ddwy flynedd.

Cwestiwn: A oes unrhyw un a wnaiff sefyll drosom ni a dros ein hawliau?
Ateb:

Gwaith Comisiynydd Plant Cymru yw amddiffyn a hyrwyddo hawliau a lles pob plentyn.

Mae gwasanaeth cyngor a chefnogaeth ar gyfer plant a phobl ifanc ar gael am ddim.

Ymwelwch â:

www.childcomwales.org.uk

E-bostiwch:

post@childcomwales.org.uk

Ffoniwch am ddim:

0808 801 1000

Tecstiwch am ddim:

80800

(dechreuwch eich neges â COM)

Os oes angen help arnoch, ffôniwch ChildLine ar

0800 1111

Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o ffônau symudol a llinellau tir.

Ni fydd y rhif yn ymddangos ar filiau ffôn.

Os ydych angen riportio trosedd, galwch CrimeStoppers ar

0800 555 111

Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o llinellau tir.

Mae cost galwad o ffôn symudol yn amrywio gan ddibynnu ar eich darparwr.