Cywir neu Anghywir?

Ffaith Allweddol

Beth yw rheol?

Mae rheol yn dweud wrthym beth i wneud i gadw'n ddiogel . Gelwir rheolau gwlad yn gyfreithiau.

Fideo: Meddai Tarian

Gair o Gyngor

Cofiwch

  • Meddyliwch am beth yr ydych yn ei wneud.
  • Peidiwch â bod yn angharedig na brifo eraill.
  • Cadwch eich ysgol a'ch cymuned yn ddiogel.
  • Rhowch eich sbwriel yn y bin bob amser.
  • Mae canlyniadau os torrwch reolau.

Cyflwyniad

Bydd Tarian yn eich helpu i ddysgu:

  • beth sy'n gywir a beth sy'n anghywir,
  • bod rheolau yn bwysig er mwyn cadw'n ddiogel, a
  • beth sy'n deg a beth sy’n annheg.

Cwestiwn ac Ateb

Cwestiwn: Beth ddylwn ei wneud os gwnaf rywbeth sy'n anghywir?
Ateb: Dweud y gwir a dweud mae'n ddrwg gen i.
Cwestiwn: Beth ddylwn ei wneud os oes rhywun yn fy mrifo?
Ateb: Dweud wrth oedolyn yr ydych yn ymddiried ynddo.
Cwestiwn: Beth ddylwn i wneud os byddaf yn gweld rhywun yn gwneud difrod i'n hysgol yn fwriadol?
Ateb: Dweud wrth athro neu athrawes ar unwaith.
Cwestiwn: A allaf i fynd a rhywbeth nad wyf i'n berchen arno heb ofyn?
Ateb: Na, rhaid ichi ofyn yn gyntaf.