Rydych chi yma: Disgyblion > 7-11 Oed > Dychmygwch Hwn!

Dychmygwch Hwn!

Ffaith Allweddol

Beth yw bwlio ffôn symudol?

Bwlio ffôn symudol yw pan fydd rhywun yn eich cam-drin, eich bygwth neu eich cythruddo yn gyson gan ddefnyddio negeseuau testun, llais neu ddelwedd.

Gair o Gyngor

Cofiwch

  • Cofiwch ddefnyddio eich ffôn yn gyfrifol.
  • Byddwch yn ofalus i bwy yr ydych yn rhoi eich rhif ffôn - nid ydych yn gwybod lle gallai ddiweddu. Rhowch eich ffrindiau gorau a'ch teulu yn unig yn eich llyfr ffôn.
  • Os oes rhywun yn eich bwlio ar eich ffôn symudol gall eich cwmni ffôn symudol atal hyn. Gofynnwch i oedolyn ffonio eich cwmni ffôn symudol a gofynnwch iddynt atal y galwadau. I gael y rhif i'w ffonio gweler yr adran rhifau cwmnïau ffonau symudol
  • Ceisiwch siarad yn dawel ar eich ffôn mewn man cyhoeddus a chadw eich cerddoriaeth yn dawel fel nad ydych yn cythruddo eraill o'ch cwmpas.
  • Yn union fel eich cyfrifiadur, gall firws ymosod ar eich ffôn. Cymerwch ofal wrth lawrlwytho i'ch ffôn symudol.
  • Os byddwch yn derbyn negeseuon tecst sbam yn aml (post sothach) riportiwch ef i'ch gweithredwr ffôn symudol neu www.phonepayplus.org.uk.
  • Peidiwch â rhoi benthyg eich ffôn i bobl eraill.
  • Trowch eich Bluetooth i ffwrdd pan fyddwch wedi gorffen ei ddefnyddio.
  • Mae gan bob ffôn rif IMEI (International Mobile Equipment Identity) unigryw. Dylech ysgrifennu eich rhif IMEI yn rhywle rhag ofn y byddwch yn colli eich ffôn symudol neu y caiff ei dwyn. Os byddwch yn rhoi eich IMEI i’ch cwmni ffôn symudol pan fyddwch yn riportio ei fod wedi ei cholli neu ei dwyn gallant flocio unrhyw un arall rhag defnyddio eich ffôn. Gallwch ddod o hyd i’ch rhif IMEI drwy wasgu *#06#9
  • Cofiwch bob amser gael caniatâd pawb sydd mewn lluniau y byddwch yn eu tynnu ac am eu postio ar-lein neu eu hanfon i ffôn arall.

Pethau i Wneud i Chi Feddwl!

Meddai PC Jones:

  • Yr un yw’r cyngor i'ch helpu i gadw'n ddiogel ar-lein ag ydyw i'ch cadw'n ddiogel wrth ddefnyddio eich ffôn.
  • Efallai bod gan eich ffôn Bluetooth. Os gadewch ef ymlaen gallai pobl eraill gael gafael ar eich gwybodaeth bersonol a hyd yn oed ddarganfod ble'r ydych gan ddefnyddio ‘traciwr’.
  • Os ydych yn meddwl y gallai cynnwys unrhyw negeseuon fod yn anghyfreithlon, megis sylwadau casineb hiliol neu luniau a allai eich gwneud yn anghyfforddus gallwch eu riportio i CEOP drwy glicio'r botwm Riportio Cam-drin. CEOP yw asiantaeth y Llywodraeth sydd wedi ei phennu i amddiffyn plant. Nid yn unig y gallwch chi gael help, gallech hefyd fod yn helpu eraill a allai fod yn ddioddefwyr.

Rhifau Cwmniau Ffonau Symudol

Rhifau Cwmniau Ffonau Symudol

Gall eich cwmni ffôn symudol flocio galwadau gan rywun sy’n eich bwlio neu’n anfon negeseuon nad ydych eu heisiau.

O2 (talu wrth fynd)

  • Ffoniwch 4445 o’ch ffôn symudol, neu
  • o ffôn gwahanol, ffoniwch 0844 809 0222

O2 (talu’n fisol)

  • Ffoniwch 202 o’ch ffôn symudol, neu
  • o ffôn gwahanol, ffoniwch 0844 809 0202

Orange (talu wrth fynd)

  • Ffoniwch 450 o’ch ffôn symudol, neu
  • o ffôn gwahanol, ffoniwch 07973 100 450

Orange (talu’n fisol)

  • Ffoniwch 150 o’ch ffôn symudol, neu
  • o ffôn gwahanol, ffoniwch 07973 100 150

Three

  • Ffoniwch 333 o’ch ffôn symudol, neu
  • o ffôn gwahanol, ffoniwch 0843 373 3333

T-Mobile

  • Ffoniwch 150 o’ch ffôn symudol, neu
  • o ffôn gwahanol, ffoniwch 0845 412 5000

Vodafone (talu wrth fynd)

  • Ffoniwch 191 o’ch ffôn symudol, neu
  • o ffôn gwahanol, ffoniwch 08700 77 66 55

Vodafone (talu’n fisol)

  • Ffoniwch 191 o’ch ffôn symudol, neu
  • o ffôn gwahanol, ffoniwch 08700 700 191

Cyflwyniad

Bydd eich swyddog ysgol yn eich helpu i ddysgu sut i ddefnyddio ffôn symudol yn ddiogel.

Cyngor PC Marshall

Cwestiwn ac Ateb

Cwestiwn: Mae rhywun yn fy nosbarth wedi anfon negeseuon tecst cas ataf. A ddylwn anfon rhai yn ôl?
Ateb: Na, peidiwch byth ag ateb bwli neu anfon negeseuon tecst yn ôl. Yn aml mae bwlis yn anfon tecst i gael ymateb, felly peidiwch ateb. Mae bwlis sydd ddim yn cael ymateb yn aml yn cael llond bol ac yn stopio.
Cwestiwn: Beth yw bwlio seiber?
Ateb: Anfon negeseuon neu ddelweddau ar-lein sy'n cynhyrfu rhywun yw bwlio seiber (gall fod i'ch cyfrifiadur neu i'ch ffôn) a gall gynnwys lluniau, tecst, galwadau ffôn a sylwadiau ar eich proffil rhwydweithio cymdeithasol.
Cwestiwn: A allaf ddefnyddio fy ffôn i lawrlwytho cerddoriaeth?
Ateb: Byddwch yn ymwybodol y gallech fod yn torri'r gyfraith a gallai fod canlyniadau i hyn. Os byddwch yn rhannu cerddoriaeth, ffilmiau neu deledu, ar rwydwaith rhannu ffeiliau, lawrlwytho o safle anghyfreithlon neu’n gwerthu copïau heb ganiatâd y rhai hynny sy'n berchen ar yr hawlfraint, rydych yn torri'r gyfraith a gallech orfod wynebu cosbau difrifol.

Os ydych yn teimlo’n anniogel neu angen help pan fyddwch yn defnyddio’r rhyngrwyd, riportiwch ef ar

ceop.police.uk/safety-centre

Am gymorth ynglŷn â chadw’n ddiogel ar-lein, edrychwch ar

thinkuknow.co.uk

Mae MEIC yn wasanaeth llinell gymorth newydd i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru.

0808 80 23456

Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o llinellau tir.

Mae cost galwad o ffôn symudol yn amrywio gan ddibynnu ar eich darparwr.

meiccymru.org/cy

Os oes angen help arnoch, ffôniwch ChildLine ar

0800 1111

Galwch am ddim o'r rhan fwyaf o ffônau symudol a llinellau tir.

Ni fydd y rhif yn ymddangos ar filiau ffôn.