Cyflwynodd Mrs. Linda Roberts, Cydlynydd Cenedlaethol, Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan, mewn ymgynghoriad gydag ACPO Cymru a’r Adran Addysg a Sgiliau, fodel sy’n amlinellu ffordd i Swyddogion Heddlu Cymunedol Ysgolion i weithio gydag ysgolion a sut y gellir cysylltu Timau Plismona Lleol gyda’r gwaith hwn er mwyn lleihau’r niwed a gysylltir â throsedd ac anrhefn o fewn cymunedau ysgol. Bydd y model yn ymestyn y model “Rhaglen Flaenllaw” (Prif Gwnstabl, Heddlu Gwent) llwyddiannus sy’n digwydd mewn ysgolion ar hyn o bryd.
Rhoddwyd y model arfaethedig mewn cyd-destun gan nifer o brif siaradwyr, megis Cyfarwyddwr Cyffredinol y DfES a ddisgrifiodd y weledigaeth ar gyfer y meddwl cydgysylltiedig a allai arwain at well canlyniadau ar gyfer holl randdeiliaid y gymuned. Pwysleisiodd y Prif Gwnstabl y pwysigrwydd o fodloni disgwyliadau’r cyhoedd a darparu’r gwasanaeth gorau posibl ar gyfer ein holl ddefnyddwyr, gan nodi bod 70% - 80% o’r holl athrawon a disgyblion a holwyd (Gwerthusiad, Tachwedd 2009) yn riportio cynnydd mewn ymddiriedaeth a hyder yn yr heddlu o ganlyniad i’r rhaglen ysgolion.
Gwnaed rhagor o gyfraniadau gan Dr. Gwynedd Lloyd, ymgynghorydd mewn prosesau adferol a Mr. Mike Gibbon, Pennaeth Ysgol Gyfun Sandfields, Port Talbot a ddarparodd gyfoeth o enghreifftiau o ffyrdd y gallai gweithwyr proffesiynol “Gefnogi lles disgyblion a’r gymuned gyfan y mae ysgol yn rhan fawr ohoni ”. (M. Gibbon, 2010).
Rhoddodd gweddill y seminar gyfle i’r holl weithwyr proffesiynol ledled Cymru i drafod y cynnig a chynllunio sut i symud ymlaen. Y teimlad cyffredinol oedd un o gydweithredu a gwir awydd i ddarparu dull cyfannol a fyddai’n cynorthwyo ysgolion a Thimau Heddlu Cymdogaeth i weithio gyda’i gilydd i hyrwyddo cymunedau diogelach.