Cyn bob ymgyrch bydd y Swyddog Heddlu Cymunedol Ysgolion (SHCY) yn cysylltu â’u hysgolion i gyflwyno gwersi allweddol wedi eu cysylltu i ffocws yr ymgyrch. Er enghraifft, cyflwynodd y swyddogion wasanaethau a nifer o wersi yn rhybuddio disgyblion am beryglon cam-ddefnyddio tân gwyllt a chanlyniadau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y gymuned.
Yn yr un modd, gall swyddogion gyflwyno gwasanaethau a gwersi sy’n amlygu meysydd allweddol eraill sydd yn y Rhaglen.
Mae disgyblion, rhieni ac athrawon yn gwerthfawrogi’r mewnbwn. Dywedodd un disgybl,
“Roeddwn i’n meddwl fy mod yn gwybod llawer am alcohol ond dysgodd yr heddlu bethau newydd i ni. Dysgais lawr mwy am beryglon alcohol nad oeddwn i wedi meddwl amdanynt cyn hynny.”
Mae athrawon hefyd yn croesawu’r gefnogaeth ychwanegol a gynigir gan yr AWSLCP.
“O ganlyniad i’r Rhaglen Cyswllt Ysgolion credaf fod ein myfyrwyr yn fwy diogel ac yn llawer llai tebygol o fod yn ddioddefwyr pethau megis seibr-fwlio.”
Mae’n galondid i nodi bod y negeseuon diogelwch a gyflwynir yn yr ysgol yn ymdreiddio i’r cartref. Meddai un rhiant,
“Daw fy mhlentyn adref a siarad am y gwersi a gafodd gyda’r SHCY.”
Mae diogelu plant yn brif bryder i’r Heddlu ac eraill yn y gymuned. Mae’r gwaith partneriaeth a wneir gan y SHCY yn eu hysgolion yn ystod gwahanol wythnosau’r ymgyrchoedd yn rhoi gwybodaeth i ddisgyblion a darparu strategaethau i gynorthwyo pob un i aros yn ddiogel.
“Roedd yn ddefnyddiol iawn pan soniodd y swyddog am ChildLine a rhoi’r rhif i ni.”
Mae’r SHCY yn parhau i atgyfnerthu’r gwaith atal gwerthfawr drwy gydol y flwyddyn yn yr ystafell ddosbarth.