Cynlluniau Haf

Yn ystod gwyliau’r haf cymerodd Swyddogion Heddlu Cymunedol Ysgolion ran mewn cynllun partneriaeth llwyddiannus iawn gyda Marsialiaid Gorllewin Rhyl a Thîm Atal a Rhwystro Conwy a Sir Dinbych.

Nod y cynllun Marsialiaid yw darparu gweithgareddau dargyfeirio ar gyfer plant a phobl ifanc yn ystod gwyliau’r haf.

Trefnwyd gweithgareddau megis hyfforddiant pêl-droed a cherdded mynyddoedd dros gyfnod chwe wythnos y gwyliau. Ar gyfartaledd mynychodd rhwng 15 a 20 o bobl ifanc bob digwyddiad.

Cafodd y gweithgaredd cerdded mynyddoedd effaith gadarnhaol iawn ar y bobl ifanc a gyfranogodd. Cludwyd yr ieuenctid i’r lleoliadau ar fysiau mini lle'r oedd pecynnau bwyd, esgidiau cerdded a dillad tywydd gwlyb ar gyfer y rheiny oedd eu hangen. Roedd gan lawer o ieuenctid ragdybiaethau am swyddogion heddlu a theimlent yn eithaf digalon eu bod i dreulio’r diwrnod gyda phedwar swyddog heddlu. Daeth un o’r swyddogion â’i gi labrador du gydag ef yn gwmni a llwyddodd y ci i leihau’r anesmwythyd fel bod y bobl ifanc yn gallu ymlacio a mwynhau. Er bod rhai yn gweld y daith gerdded yn heriol cawsant eu hannog gan eraill yn y tîm fel bod pawb yn llwyddo i orffen. Erbyn diwedd pob diwrnod roedd hi’n amlwg bod arweinwyr a dilynwyr ymhlith y grwpiau a dangosodd llawer bod ganddynt sgiliau cyfathrebu a sgiliau gweithio tîm ardderchog. Cafodd yr holl bobl ifanc dystysgrif ar ddiwedd cyfnod yr haf er mwyn cydnabod eu cyfranogiad.

Hefyd darparodd y Tîm Atal a Rhwystro, gyda chefnogaeth Swyddogion Heddlu Cymunedol Ysgolion sydd â chyfrifoldeb am Gonwy a Sir Dinbych, nifer o gyfleoedd ar gyfer pobl ifanc a atgyfeiriwyd o amryw asiantaethau. 

Trefnodd y cydlynydd bedwar diwrnod pysgota pluen a phedwar diwrnod pysgota bras. Roedd y grwpiau yn fach gyda dim rhagor na chwech o bobl ifanc yn cymryd rhan ar y tro gan fod perthynas un i un rhwng y bobl ifanc a’r gwirfoddolwyr yn cynorthwyo i chwalu’r rhwystrau a meithrin ymddiriedaeth rhwng y bobl ifanc a’r rheiny y maent yn eu gweld fel ffigurau awdurdodol. Ar y cyfan mwynhaodd y bobl ifanc y pysgota bras yn fwy na’r pysgota pluen gan eu bod yn dueddol o ddal rhagor o bysgod, er eu bod yn gorfod eu rhoi’n ôl yn y dŵr. Roedd rhai o’r swyddogion yn bysgotwyr medrus a sylweddolodd y bobl ifanc yn gyflym y byddai ychydig bach o gymorth yn arwain at ddiwrnod llawer mwy cynhyrchiol.

Erbyn diwedd pob dydd roedd y bobl fanc yn gartrefol yng nghwmni’r swyddogion ac yn teimlo’n hapus i holi cwestiynau a gofyn am help. Roedd treulio’r cyfnod hwn gydag oedolyn yn gwneud gweithgaredd nad oeddent wedi ei brofi o’r blaen yn fuddiol i adeiladau hunanhyder a theimlo’n gadarnhaol amdanynt eu hunain. Hefyd cynorthwyodd i oresgyn y rhagdybiaethau sydd gan lawer o’r bobl ifanc hyn am bobl mewn awdurdod ac yn enwedig swyddogion heddlu.