Dechreuodd y diwrnod gyda PC Rowlands yn cyflwyno gwers am gyffuriau i ddisgyblion 5 i 7 oed. Mae’r wers yn cynorthwyo disgyblion i ddeall peryglon a manteision meddyginiaethau. Yn ddiweddarach bu disgyblion 7 i 11 oed yn dysgu am ganlyniadau camddefnyddio alcohol. Yn ôl ei arfer tynnodd PC Rowlands sylw’r disgyblion at agweddau o’r gyfraith. Cafodd y disgyblion hefyd gyfle i wisgo ‘sbectol cwrw’ arbennig sy’n ei gwneud hi’n anodd gweld yn iawn ac i gerdded mewn llinell syth. Roedd sylwadau’r disgyblion yn cynnwys:
“Doeddwn i ddim yn gallu cerdded ar hyd y llinell syth - ro’n i’n gweld dau o bopeth. Roedd yn deimlad od.”
“Roedden nhw’n gwneud i mi feddwl fy mod yn gweld dau o bopeth, sut all unrhyw un yfed a gyrru yn ddiogel?”
Fel rhan o’r diwrnod thema hwn gwahoddwyd rhieni i’r ysgol i gwrdd â PC Rowlands a thrafod yr adnoddau a ddefnyddir gyda’r disgyblion. Cyflwynodd y SHCY ei hun a disgrifiodd ei rôl o fewn yr ysgol a’r gymuned. Ymunodd y Swyddog Heddlu Cymunedol Lleol â’r rhieni i wylio clipiau DVD o wersi.
Ar y dechrau cwestiynodd y rhieni berthnasedd addysg alcohol ar gyfer disgyblion oed cynradd. Ymatebodd PC Rowlands drwy ddweud bod addysg ymyrraeth gynnar yn bwysig er mwyn galluogi plant i wneud y dewisiadau cywir. Cefnogwyd hyn gan brofiad un o’r rheini lleol sy’n nyrs bediatreg. Dywedodd eu bod eisoes yn gweld problemau cysylltiedig ag alcohol ymhlith pobl ifanc sydd yn eu blynyddoedd cyntaf mewn ysgol gyfun. Meddai rhiant arall:
“Rwy’n gweithio wrth ddrws tafarn ar y penwythnosau ac rwy’n gweld pob math o ganlyniadau yfed. Mae’n bwysig sgwrsio am y pethau hyn gyda’n plant”
Daeth y diwrnod i ben gyda’r staff a’r SHCY yn trafod y negeseuon oedd wedi eu cyflwyno yn ystod y dydd.
Meddai un o athrawon yr ysgol:
“Rydw i wedi dysgu sut mae alcohol yn effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd. Mae wedi bod yn ddiwrnod da gyda phawb, yn cynnwys y rhieni, yn cael yr un negeseuon diogelwch gan PC Rowlands. Mae’r plant, yn arbennig, wedi ymateb yn gadarnhaol ac yn cofio’r negeseuon.”
Roedd PC Rowlands yn fodlon gydag ymateb y disgyblion a sut yr oeddent wedi cofio’r ffeithiau o wersi blaenorol.
“Roeddwn i’n falch i weld y disgyblion a’r rhieni’n ymateb yn gadarnhaol i’r wybodaeth a roddwyd ac yn teimlo eu bod yn gallu gofyn cwestiynau”.
Daeth PC Rowlands â’r diwrnod i ben drwy gyfeirio pawb at wefan www.schoolbeat.org i gael rhagor o wybodaeth a dosbarthodd ef a’r Swyddog Heddlu Cymunedol Lleol gardiau a thaflenni ynglŷn â materion lleol a llinellau cymorth lleol.
Crynhodd y pennaeth y diwrnod drwy ddweud bod rôl y SHCY o fewn yr ysgol a’r gymuned yn bwysig iawn a bod parch mawr i Raglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan a gwaith PC Rowlands.