Mae’r dyfyniad uchod yn grynodeb nodweddiadol o Dewis Kiddo, digwyddiad amlasiantaeth a gyflwynir i ddisgyblion blwyddyn 7 sydd â’r nod o gynyddu ymwybyddiaeth ieuenctid o ganlyniadau ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol a chyflawni troseddau. Mae’r digwyddiad sy’n rhan annatod o Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan (AWSLCP) yn edrych ar y canlyniadau ar gyfer y drwgweithredwr, teulu neu ffrindiau’r drwgweithredwr a’r gymuned yn gyffredinol.
Mae Dewis Kiddo, sy’n llunio rhan o’r llinyn Ymddygiad Cymdeithasol a’r Gymuned, yn enghraifft ardderchog o weithio mewn partneriaeth ac mae’n dechrau drwy wylio DVD/cynhyrchiad drama Dewis Kiddo ac yna cyfres o weithdai a drefnir mewn dull carwsél, wedi eu cyflwyno gan Swyddogion Heddlu Cymunedol Ysgolion (SHCY), Ynadon Heddwch, Timau Troseddau Ieuenctid a’r Gwasanaeth Carchardai.
Mae’r digwyddiad hwn yn wrthdrawol iawn fel y dangosir gan y dyfyniadau canlynol:
“Gwnaeth y DVD a’r gweithdai i mi feddwl o ddifri”
“Roedd y gweithdai’n hwyl ond roedd y negeseuon yn rai difrifol”
“Mae’n dda cymryd rhan yn Dewis Kiddo a gobeithio na fyddwn ni’n ymddwyn fel yna ac yn mynd i drwbl”
“Mae meddwl am fynd i’r llys yn codi ofn arna’i”
Mae asiantaethau partner yn gwerthfawrogi’r cyfle i weithio gyda disgyblion. Mae sylwadau nodweddiadol yn cynnwys:
“Mae’r gweithdai’n caniatáu i ddisgyblion ddeall mwy am y gwaith a wnawn ac atgyfnerthu’r negeseuon allweddol bod gan weithredoedd yn aml ganlyniadau arswydus”
“Gobeithio y bydd y gweithdai’n gymorth i atal disgyblion rhag ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol”
Mae Dewis Kiddo yn rhan allweddol o’r Rhaglen Graidd a gyflwynir gan SHCY yn Ysgolion Uwchradd Cymru. Mae sylwadau ynglŷn â Dewis Kiddo gan SHCY yn cynnwys:
“Atal troseddau ar ei orau!”
“Mae hwn yn ddigwyddiad llawn gwybodaeth a rhyngweithiol lle mae croeso i ddisgyblion ofyn cwestiynau a dysgu mewn amgylchedd llawn hwyl”
“Mae disgyblion yn dysgu am y system cyfiawnder troseddol a chanlyniadau byw gyda’u gweithredoedd”