Beth mae'r gyfraith yn dweud ynglŷn â phrynu ac yfed alcohol?
Prynu ac yfed alcohol
Mae'n anghyfreithlon gwerthu alcohol i unrhyw un o dan18 oed.
Hefyd, mae'n ANGHYFREITHLON i oedolion geisio prynu alcohol i unrhyw un o dan18 oed.
Yfed Alcohol
Adref:
Mae'n anghyfreithlon i blant o dan 5 oed yfed alcohol adref.
Uwchlaw'r oed hwn, rhaid i blant gael caniatâd rhiant i yfed alcohol adref.
Yfed Alcohol
Mewn tafarn:
Caiff plant o dan 14 oed ond mynd mewn i dafarndai sy'n caniatáu i blant fynd mewn gydag oedolyn, ond rhaid iddynt aros yn yr ardd neu'r ystafell deulu.
Ni chânt yfed alcohol!
Caiff plant o dan 16 oed ond mynd mewn i dafarn gydag oedolyn.
Ni chânt yfed alcohol!
Yfed Alcohol
Caiff plant 16 neu 17 oed fynd mewn i dafarn gydag oedolyn, a chaiff oedolyn brynu diod iddynt gael gyda phryd bwyd (nid gwirodydd)
Yfed mewn mannau cyhoeddus
Dim ond pobl dros 18 oed caiff yfed yn gyhoeddus. Does dim hawl gan unrhyw un yfed mewn parthau di-alcohol. Mae'r rhain yn ardaloedd mewn rhai trefi lle caiff neb yfed mewn mannau cyhoeddus. Caiff yr heddlu atafaelu alcohol sy'n cael ei yfed gan blant dan 18 yn gyhoeddus.
Meddw ac Afreolus
Mae yna gyfreithiau hefyd ynglŷn â bod yn feddw ac afreolus mewn mannau cyhoeddus.
Os ydynt yn cael eu harestio, mae troseddwyr fel arfer yn derbyn cosb benodedig am £80.
Hefyd, caiff troseddwyr eu hanfon i'r llys lle y gallant wynebu dirwy o hyd at £5000.
Yfed a Gyrru
Yn y DU, y terfyn alcohol ar gyfer gyrwyr yw 80mg o alcohol fesul 100ml o waed.
Yn y rhan fwyaf o wledydd Ewropeaidd, mae'r terfyn yn llai – 50mg o alcohol mewn 100ml o waed fel arfer.
Peidiwch byth â derbyn lifft gan rywun sydd wedi bod yn yfed alcohol
Yfed a Gyrru – Cosbau
Bydd unrhyw un sy'n cael ei ddal dros y terfyn alcohol wrth yrru yn cael ei wahardd rhag gyrru am o leiaf 12 mis ac yn derbyn dirwy o hyd at £5,000.
Hefyd, gallech gael eich anfon i'r carchar am hyd at 6 mis.
Os fyddwch chi'n cael eich dal yn yfed a gyrru fwy nag unwaith mewn cyfnod o 10 mlynedd, byddwch chi'n cael eich gwahardd am o leiaf 3 blynedd.