Beth Sydd Angen i chi Wybod?

Alcohol – Gwybodaeth Gyffredinol

Alcohol (Ethanol, Ethyl Alcohol)

Enwau Stryd yw Booze, Tipple, Tot, Nip, Bevy,

Gwybodaeth Gyffredinol

Cynhyrchir alcohol drwy eplesu ffrwythau, llysiau neu ŷd. Defnyddir alcohol yn eang yng Nghymru ac mae wedi dod yn rhan o’r diwylliant Cymreig. Daw alcohol mewn gwahanol gryfderau ac y mae’n cael ei fesur fel canran yn ôl cyfaint. Po uchaf canran y cyfaint cryfaf fydd y diodydd.

Am fuy o wybodaeth cliciwchyma.

Eich plentyn ac Alcohol

  • Gall rhai rhieni deimlo, y bydd rhoi ychydig bach o alcohol i’w plant yn eu harddegau cynnar yn rhoi agwedd gyfrifol iddynt tuag at alcohol. Nid oes tystiolaeth wyddonol i gefnogi hyn. 
  • Mewn gwirionedd, mae ymchwil yn dangos po gyntaf y bydd plant yn dechrau yfed, uchaf fydd  y perygl iddynt ddatblygu problemau difrifol cysylltiedig ag alcohol yn nes ymlaen yn eu bywydau. 
  • Yn ystod llencyndod hwyr mae’r ymennydd yn dal i dyfu – mae rhannau na fyddant wedi datblygu’n llwyr nes y bydd unigolion yn eu hugeiniau cynnar. Mae rhan yr ymennydd sy’n gysylltiedig â chynllunio a doethineb yn aeddfedu’n hwyr, fel y mae’r rhan sydd yn gysylltiedig â chof tymor hir a dysg. Drwy yfed, gallai pobl ifanc atal y rhannau hyn o’r ymennydd rhag datblygu’n iawn.
  • Mewn perthynas ag yfed alcohol, mae canllawiau’r llywodraeth yn dweud nad oes unrhyw ffordd i yfed alcohol heb risg, ac nad oes unrhyw fanteision iechyd.
  • Ar y cyfan mae pobl ifanc yn llai o ran corff ac yn pwyso llai nag oedolion, felly mae alcohol yn fwy cryf yn eu cyrff a gallant deimlo effeithiau alcohol yn gyflymach ac am fwy o amser. Hefyd, efallai y bydd pobl ifanc yn llai galluog i fesur a rheoli eu hyfed.

 

 

Y risgiau posibl sy’n gysylltiedig â defnyddio alcohol

  • ymddygiad amhriodol ac/ neu ymosodol yn y dosbarth
  • sgiliau ymdopi gwael
  • mae defnyddio cyffuriau o oedran cynnar yn cynyddu’r tebygrwydd o gamddefnyddio sylweddau yn yr hirdymor
  • posibilrwydd o fod yn rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddol megis ymladd, difrodi eiddo neu bod n fwrn ar y gymuned a all arwain at i  blentyn ddod i gysylltiad â’r Heddlu
  • cymryd risgiau cynyddol e.e. cysylltiadau â gweithgaredd rhywiol
  • troseddu 
  • trais (yn cynnwys trais domestig)
  • damweiniau / derbyn i ysbyty
  • siawns cynyddol o fod yn ddioddefwr ymosodiad neu droseddau eraill
  • problemau iechyd corfforol a meddwl
  • perfformiad gwael yn yr ysgol (achos ac effaith)
  • pen mawr
  • gall symiau mawr iawn arwain at fynd yn anymwybodol
  • gall cymysgu alcohol gyda defnydd rhai cyffuriau eraill arwain at or-ddosio angheuol
  • dibyniaeth (alcoholiaeth)
  • gall yfed hirdymor arwain at niwed i’r afu/iau, calon, stumog a’r ymennydd
  • pwysedd gwaed uwch
  • magu pwysau
  • ysgwyd direol.

 

 

Meddyliwch Unedau!

  • Mae canllawiau dyddiol a argymhellir ar gyfer oedolion – ie oedolion! – nid ar gyfer pobl ifanc dan 18 oed -  ac y mae yfed rhagor na’r canllawiau yn cynyddu perygl difrod i’ch iechyd. Mae’r peryglon yn cynnwys canser, clefyd y galon a strôc.
  • Beth yw’r canllawiau dyddiol a argymhellir ar gyfer oedolion?
  • Ni ddylai dynion a merched yfed mwy na 3–4 uned mewn un diwrnod.
  • Mae’r canllawiau hyn ar gyfer oedolion sy’n yfed – nid ydynt yn berthnasol i bobl dan 18, pobl ar feddyginiaeth, menywod beichiog a phobl hŷn. 

 

Faint o unedau sydd mewn diodydd gwahanol?

Diod Nifer yr Unedau
Cwrw 1 Peint (568 ml) 2.3
Cwrw Premiwm 1 Peint 2.8
Cwrw Premiwm: Potel (330 ml) 1.7
Gwin: Gwydraid mawr (250 ml) 3.0
Gwin: Gwydraid safonol (175 ml) 2.1
Gwin: Potelaid (750 ml) 9.0
Siampaen: Gwydraid (125 ml) 1.5
Gwirodydd Clir (35 ml) Jin, Fodca, Rym Ysgafn 1.3
Alcopop (275 ml)    1.4
Gwirodydd tywyll (35 ml) 1.4
Gwirod hufen (50 ml) 0.9
Fermwth (50 ml) 0.8
Seidr cryf (275 ml) 2.1
Seidr arferol (1 Peint) 2.8

 

 

Bydd y rhan fwyaf o’r alcohol a yfir gennych yn cael ei dorri i lawr gan yr afu/iau. Faint o amser mae’r afu/iau yn ei gymryd i dorri i lawr yr alcohol sydd mewn "uned" o ddiod (8 gram o alcohol) mewn diodydd alcoholaidd?

Mae’r afu/iau yn torri i lawr y rhan fwyaf o’r alcohol a yfir (95%), yn y pen draw yn garbon deuocsid a dŵr. Mae angen awr ar eich afu/iau i dorri i lawr gwydraid safonol o alcohol ac nid oes dim y gallwch chi ei wneud i gyflymu hyn. Mae hyn yn esbonio pam y mae rhywun sydd wedi sydd wedi yfed llawer y noson cynt yn dal i allu bod o dan ddylanwad neu ‘dros y terfyn ar gyfer gyrru’ y bore canlynol. Caiff y 5% diwethaf ei wacau drwy’r troeth, anadl a chwys.

 

Mae alcohol yn effeithio’n wahanol ar ddynion a menywod

Ar y cyfan mae cyrff menywod yn llai ac mae ganddynt lai o ddŵr corff, felly mae crynodiadau alcohol yn codi’n gynt. Felly, ni all menywod yfed cymaint â dynion. Mae’n ffaith fiolegol! 

Mae gan fenywod lai o ddŵr corff na dynion felly mae’r crynodiad alcohol yn eu llif gwaed yn uwch o ran cyfran. Felly, os yw menyw sy’n pwyso 60 cilogram yn yfed fodca dwbl yna, o ran cymhariaeth, bydd angen i ddyn o’r un maint yfed fodca triphlyg er mwyn cyrraedd yr un lefel alcohol gwaed.

Hefyd ceir peth tystiolaeth bod menywod yn torri i lawr yr alcohol ychydig yn wahanol. Mae’r ensym ADH yn torri i lawr yr alcohol yn yr afu/iau ac yn leinin y stumog; ac mae gan fenywod lai ohono, felly caiff alcohol ei dorri i lawr yn arafach.

 

Effeithiau yfed alcohol

Mae yfed alcohol yn effeithio ar eich corff, eich barn, eich ymddygiad, eich personoliaeth a’ch canfyddiad, i ddechrau mewn ffordd bleserus, ond gall hyn newid ar ôl diod neu ddau. Mae lefelau crynodiad alcohol yn y gwaed cyfreithlon yn bodoli ar gyfer gyrru gan fod eich amser ymateb yn arafu hyd yn oed ar ôl un diod, a dyna pam eich cynghorir i beidio yfed wrth weithio peiriannau neu ar uchderau, er enghraifft. 

Gall gormod o alcohol newid eich ymddygiad arferol - gan wneud i chi ddweud pethau na ddylech, ymddwyn mewn ffordd sy’n codi embaras, dechrau dadlau, neu gael rhyw anniogel neu ryw y byddwch yn ei ddifaru yn ddiweddarach. Mae eich risg o ymladd neu gael pethau fel eich ffôn wedi’u dwyn yn cynyddu.

 

Cynghorir menywod beichiog i beidio yfed alcohol.

Gall alcohol niweidio babi sydd heb ei eni mewn gwahanol ffyrdd. Gall alcohol niweidio babi sydd heb ei eni wrth iddo fynd drwy’r brych i’r ffetws. Oherwydd nad oes lefel diogel o yfed wedi ei bennu ar gyfer menywod beichiog, y cyngor gorau yw peidio yfed o gwbl.

Mae’r Adolygiad Canllawiau Alcohol (Ionawr 2016) yn datgan nad oes ffordd i yfed heb risg.  Os ydych yn yfed ystod beichiogrwydd, mae’r risg o nam geni difrifol yn cynyddu. Gelwir y nam hwn yn Syndrom Ffetws Alcohol.

 

Adegau pan ddylai oedolion osgoi yfed unrhyw alcohol

Mae rhai achlysuron arbennig pan na ddylech yfed, ac mae’r rheiny’n cynnwys os ydych yn gweithio gyda pheiriannau neu ar uchderau, gan fod hyd yn oed symiau bach o alcohol yn effeithio ar eich cydsymud, eich amser ymateb a’ch cydbwysedd.

Adegau eraill pryd ddylid osgoi alcohol yw: pan fwriadwch yrru, defnyddio offer trydanol, cystadlu mewn chwaraeon, tra ar rai meddyginiaethau - (gofynnwch i’ch meddyg os nad ydych yn siŵr) neu pan yn feichiog.

Alcohol a gyrru

Oherwydd bod alcohol yn cael effaith negyddol ar eich cydsymud, eich canfyddiad a’ch barn

Mae’r alcohol a yfwch yn mynd trwy eich stumog ac i’r coluddyn bach, lle caiff ei amsugno i’r llif gwaed. O’r fan honno mae’n effeithio ar eich system nerfol. Mae alcohol yn effeithio ar arwyddion i’r ymennydd ac felly mae’n arafu canfyddiad y synhwyrau, barn a chydsymud.

Mae hyn yn egluro pam y mae yfed alcohol yn effeithio ar yr hyn a welwch, sut yr ydych yn  teimlo symud ac ymateb. Mae faint o effaith gaiff alcohol ar y corff yn dibynnu ar y crynodiad alcohol yn y gwaed (BAC) h.y. cyfaint yr alcohol yn eich gwaed. Dyma pam y mae llywodraethau wedi gosod lefelau BAC cyfreithiol yma yn y DU ar 80mg.

Pan fyddwch yn mynd allan trafodwch a chynlluniwch bob amser sut y byddwch yn dod adref cyn i chi adael, neu penderfynwch pwy fydd y gyrrwr fydd ddim yn yfed.

Os cewch eich temtio i yfed a gyrru gallwch gael dirwy hyd at £5,000, chwe mis o garchar a cholli’ch trwydded. Os byddwch yn achosi damwain neu anaf yna gall arwain at hyd at 14 mlynedd o garchar.

 

Y risg mwyaf cyffredin cysylltiedig ag yfed alcohol gan bobl ifanc

Y risg mwyaf cyffredin y gallwch ei gymryd wrth yfed alcohol yw cael damwain. Mae’n wir y gall pobl sy’n yfed yn rheolaidd dros gyfnod hir o amser gael clefyd yr afu/iau (mae pobl 25 oed yn marw o sirosis), ac weithiau bydd pobl sy’n gwir or-yfed yn mynd i goma.

Mae alcohol yn effeithio ar eich cydsymud, eich cydbwysedd a’ch barn ac mae llawer o bobl ifanc bob blwyddyn yn cael anafiadau i’w hwyneb neu’n torri esgyrn – neu weithiau hyd yn oed yn dioddef anableddau difrifol.

Mae tua 20% o bob achos o dderbyn i’r adran Damweiniau ac Achosion Brys yn gysylltiedig ag yfed ac mae 22% o farwolaethau damweiniol yn y DU yn gysylltiedig ag alcohol.

 

Y terfyn diogel ar gyfer yfed alcohol i bobl ifanc dan 18 oed

Nid oes terfyn diogel ar gyfer yfed alcohol pan fyddwch dan 18 oed. Mae pobl ifanc yn llai abl i ymdopi ag effeithiau alcohol, yn gorfforol ac emosiynol. Mae hyn oherwydd nad yw’r corff a’r ymennydd wedi datblygu’n llawn eto, ac effeithir arnynt yn fwy gan alcohol nag oedolion.

 

Gall y rheiny sy’n yfed gormod yn gyson fynd yn gaeth i alcohol. Pam y mae mor anodd i oresgyn caethiwed i alcohol? 

Mae alcoholigion yn teimlo’n druenus heb alcohol. Ceir goddefiad alcohol a chaethiwed alcohol. Goddefiad alcohol yw pan fyddwch angen mwy a mwy o alcohol yn raddol i gael yr un effaith. Ystyr caethiwed yw na allwch bellach ymdopi heb alcohol. Rydych yn teimlo bod yn rhaid i chi gael diod. Heb alcohol rydych yn teimlo’n sâl a chewch symptomau diddyfnu. Byddwch yn dechrau ysgwyd, crynu, teimlo cyfog neu hyd yn oed yn chwydu. Mae’r symptomau diddyfnu hyn yn ei gwneud hi’n anodd goresgyn caethiwed ac mae angen cymorth a chefnogaeth arbenigol.

 

Ffeithiau am Alcohol

  1. Mae pobl ifanc dros 16 oed yn tueddu i yfed mwy o alcohol ac yn fwy rheolaidd. Y mae’r tuedd wedi bod i bobl ifanc yfed mwy o alcohol gyda mwy o yfed sbri a meddwdod.

  2. Mae rhai pobl ifanc yn marw o or-ddosio ar alcohol ac y mae llawer mwy yn cael eu rhuthro i’r Ysbyty i gael gwagio eu stumogau.

  3. Mae rhwng 25,000 a 35,000 o bobl yn marw bob blwyddyn yn y DU o ganlyniad i ddamweiniau, salwch a gor-ddosio sy’n gysylltiedig ag alcohol.

  4. Mae arolygon cenedlaethol diweddar wedi darganfod bod 16% o blant 11 oed wedi cael o leiaf un diod feddwol, ac mae hyn yn codi i 81% ymhlith plant 15 oed. Mae nifer y plant rhwng 11 a 15 oed sydd wedi rhoi cynnig ar alcohol wedi gostwng yn ddiweddar, ond o’r rhai sydd yn yfed, mae’r draul wythnosol ar gyfartaledd wedi dyblu a mwy ers 1990.

  5. Mae dau o bob pum plentyn 15 oed yn dweud eu bod yn yfed alcohol yn wythnosol. Mae hanner wedi bod yn feddw o leiaf ddwywaith yn ystod eu bywydau. Mae hyn yn golygu, fel rhiant, y bydd pwnc alcohol a’ch plentyn yn debygol o godi.

  6. Mae 29% o bobl 18–24 oed yng Nghymru yn cyfaddef i ymddygiad troseddol ac anhrefnus yn ystod neu ar ôl yfed.

  7. Ymhlith plant 11 oed yng Nghymru dywedodd 7% o fechgyn a 4% o ferched eu bod nhw wedi yfed alcohol o leiaf unwaith yr wythnos – i blant 13 oed cododd y nifer i 23% o fechgyn a 20% o ferched.

  8. Ymhlith plant 15 oed yng Nghymru dywedodd 54% o fechgyn a 52% o ferched eu bod nhw wedi meddwi o leiaf ddwywaith yn ystod eu bywydau.