Eich Plentyn a’r Ysgol

Mae’n debygol y bydd addysg Alcohol yn rhan annatod o wersi Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh) eich plentyn.

Mae nodiadau canllaw Llywodraeth Cymru yn nodi:

  • Dylai addysg camddefnyddio sylweddau effeithiol ddechrau’n gynnar a bod yn briodol i oedran.
  • Dylid defnyddio dulliau sgiliau bywyd cyffredinol fel rhan o raglen ABCh sydd wedi ei chynllunio.
  • Nod addysg camddefnyddio sylweddau ddylai fod i rymuso pobl ifanc i wneud penderfyniadau cyfrifol a gwybodus ynglŷn â sylweddau.

Bydd gan bob ysgol reolau ynglŷn ag alcohol a disgyblion. Bydd rheolau a gweithdrefnau’r rhan fwyaf wedi eu hamlinellu ym mholisi cyffuriau yr ysgol. Gallwch ofyn i gael gweld y polisi. Bydd polisïau’r rhan fwyaf o ysgolion ar gael ar wefan yr ysgol.

Mae’n bwysig, lle bynnag yr ydych yn byw yng Nghymru, yr ymatebir i ddigwyddiadau yn ymwneud â phobl ifanc ac alcohol mewn ysgolion gan yr Heddlu mewn modd cyson. Protocol Trechu Troseddau mewn Ysgolion yw dull a ddefnyddir gan yr Heddlu pan fyddant yn delio â digwyddiadau ar dir yr ysgol. Cyfrifoldeb y pennaeth yw cynnwys yr Heddlu neu beidio. Pan ofynnir i Swyddogion Heddlu Cymunedol Ysgolion (SHCY) ddelio â digwyddiadau camddefnyddio alcohol ar dir yr ysgol, byddant yn gweithio law yn llaw â dymuniadau’r ysgol, lle bynnag bo hynny’n bosibl. Y bwriad yw atal person ifanc rhag mynd i mewn i’r System Cyfiawnder Troseddol.

Un ffordd bosibl yw defnyddio Dulliau Adferol er mwyn helpu’r person ifanc. Gall nyrs a chynghorwr ysgol hefyd gynnig cyngor.

Gellir gweld y Protocol yn llawn drwy ymweld â’r Adran Athrawon ar y wefan hon.

I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at y dogfennau canlynol: