Heroin
Heroin (Diamorphine Hydrochloride, Diacetylmorphine)
Enwau stryd
H, Brown, Smack, Gear, Junk, Skag, Horse, China White, Dragon, Toot,
Gwybodaeth Gyffredinol
Y mae Heroin yn gyffur sydd wedi ei wneud o Morffin, sydd yn cael ei dynnu allan o’r pabi gwyn. Pan wneir Morffin yn Heroin i gael ei ddefnyddio fel moddion ei enw ydy Diamorphine. Y mae hwn yn boenladdwr cryf iawn, yn gryfach na Morffin neu Opiwm.
Pan fydd yn cael ei gynhyrchu’n feddygol, y mae Heroin yn bowdwr gwyn pur, ond pan fydd e’n cael ei gynhyrchu’n anghyfreithlon, y mae’n tueddu i fod yn bowdr llwydfelyn neu frown. Neu’n fwy anaml y mae’n bowdr gwyn ('China White').
Gall Heroin gael ei sniffian i fyny’r trwyn, ei ysmygu drwy ddefnyddio papur gloyw ('tooting', 'cwrso' neu 'cwrso’r ddraig') neu ei gymysgu â thybaco mewn sigaret wedi’i rolio â llaw, neu wedi’i chwistrellu.
Effeithiau
- Os bydd e’n cael ei chwistrellu gall achosi bywiogrwydd dwys (neu ruthr), perlesmair, ymlaciad, a gwewyr meddwl llai.
- Gall gael sgîl-effeithiau annymunol fel cyfog, chwydu, pendro, syrthni, cyflymder calon llai, anadlu isel / shallow a marwgwsg achos methiant anadlol a allai fod yn angheuol.
Peryglon
- Y mae Heroin yn gaethiwus dros ben ac y mae pobl yn gallu mynd yn gaeth yn gyflym iawn
- Y mae Chwistrellu Heroin a rhannu offer chwistrellu yn dwysau perygl lledaenu heintiau fel Hepatitis B, Hepatitis C ac HIV/AIDS.
- Wrth chwistrellu, gall gwythiennau gael eu niweidio neu gall crawniad neu geulad gwaed ddatblygu. Gall hwn arwain i fadredd.
- Os cymerir Heroin gyda chyffuriau eraill, gan gynnwys alcohol, y mae gorddos yn fwy tebygol.
Dosbarth
Dosbarth A