Madarch Hud
Madarch Hud (psilocybin semilanceata neu ‘liberty cap’)
Enwau Stryd
Liberty Caps, Shrooms, Liberties, Mushies, Magies
Gwybodaeth Gyffredinol
Y ffurf fwyaf cyffredin o’r ffyngau hyn sydd yn digwydd yn naturiol yw rhywogaeth o’r enw Psilocybin Semilanceata or ‘Liberty Cap’. Unwaith y bydd wedi cael ei gymryd, naill ai ar ei ben ei hun neu mewn bwyd, neu fel diod, y mae’r cyffur yn cymryd tua 30-60 munud i gael effaith. Y mae perygl difrifol o wenwyno a/neu farwolaetho gasglu a chymryd y fath anghywir.
Y mae cymryd y cyfur hwn yn creu trip sydd yn amrywio, gan ddibynnu ar dymer ac amgylchiadau’r defnyddiwr. Y mae rhai defnyddwyr yn sôn am brofiad dymunol iawn tra bod eraill yn teimlo paranoiaidd neu’n ofnus. Y mae ei ddefnyddio yn arwain at rithweledigaethau.
Y mae madarch Psilocybin yn tyfu ym mhob rhan o Brydain yn ystod yr hydref. Gall defnyddwyr fynd ar sbri casglu yn ystod yr amser hwn, sychu’r madarch a’u storio i’w defnyddio’n hwyrach. Y mae rhai’n cael eu gwerthu ar y farchnad anghyfreithlon pan fyddant yn anhymig.
Effeithiau
- Teimlo’n hyderus yn ymlacio ac mewn hwyliau da
- Gallant gamlunio lliw, sŵn a phethau – e.e. y mae synhwyrau’r defnyddwyr yn cymysgu fel y byddant, er enghraifft, yn meddwl eu bod nhw’n gallu clywed lliwiau ac yn gweld swnau
- Y mae defnyddwyr yn gallu teimlo fel petaent yn breuddwydio pan fyddant ar ddihun
- Teimlo’n fwy teimladwy yn emosiynol
- Yn anwadal yn emosiynol (o bosib yn orawenus un funud ac yna’n ddychrynedig y funud nesaf)
- Ymddangos yn bensyniol a/neu’n ddryslyd
Peryglon
- Cyfod a chwydu
- Dryswch
- Damweiniau tra bod dan y dylanwad
- Poen meddwl, gofid emosiynol (h.y. trip gwael)
- Gwenwyno, drwy gaslu’n ddamweiniol math fwy gwenwynllyd o fadarch
- Fel gyda sylweddau rhithbair eraill gall fod peth perygl o beri problemau secolegol a oedd gynt dan yr wyneb
Dosbarth
Dosbarth A