Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

Methadôn

Methadôn (Methadon Hydroclorid)

Enwau Stryd

Methadon, Mixture, Meth, Linctus, Physeptone, Phy amps. 

Gwybodaeth Gyffredinol 

Y mae Methadon yn opiad gwneud sy wedi cael ei gynhyrchu i’w ddefnyddio fel tawelydd poen ac fel allddodyn am Heroin wrth drin caethiwed Heroin. Y mae ganddo effeithiau tebyg i Heroin sydd yn golygu ei bod yn hawdd mynd yn gaeth. Y mae opiadau yn gyffuriau tawelyddol sydd yn lleddfu’r gyfundrefn nerfol. Y maent yn arafu gweithrediadau’r corff ac yn lleihau poen.

Y mae claf sydd yn gaeth i Heroin yn aml yn cael presgripsiwn Methadon fel allddodyn ac y mae dogn Methadon yn raddol yn cael ei leihau dros gyfnod ac felly yn osgoi symtomau diddyfnu enbyd. Y mae Methadon presgripsiwn fel arfer yn  hylif gwyrdd sydd yn cael ei lyncu, ond gall ddod mewn ffurf tabled neu chwistrelladwy.

Y mae cymysgedd Methadone a moddion yn cael eu cymryd trwy’r genau tra bod y tabledi yn cael eu cymryd trwy’r genau neu wedi’u chwistrellu, ac y mae ampylau  physeptone yn cael eu chwistrellu.

Effeithiau

  • Y mae Methadon yn arafu’r corff, yn lledfu poen corfforol a seicolegol, ac yn darparu teimlad o gynhesrwydd, ymlaciad a gwahaniad wrth leddfu teimladau dychryn.
  • Gall gael sgîl-effeithiau annymunol fel penysgafnder, ceg sych, chwysu, cyfog, chwydu a syrthni.
  • Mewn rhai achosion y mae gorddosau yn gallu arwain i goma ac hyd yn oed marwolaeth o fethiant anadliadol.

Peryglon

  • Y mae Methadon a benodwyd gan feddyg yn cael ei reoli’n llym.
  • Beth bynnag nid yw Methadon stryd yn cael ei reoli ac felly y mae purdeb yn ansicr. Gall fod yn fwy cryf na’r disgwyl.
  • Yn aml y mae’n achosi i bobl chwydu y tro cyntaf y maent yn ei ddefnyddio fe.
  • Y mae dognau uwch yn achosi syrthni neu goma neu atal anadlu’n gyfan gwbl.
  • Y mae cymysgu Methadon gydag Alcohol neu gyda thawelyddion eraill yn gallu gwneud gorddos yn fwy tebyg, a gall hwn arwain i goma neu fethiant anadlu a marwolaeth.

Dosbarth

Dosbarth A