Steroidau Anabolig
Steroidau Anabolig (Steroidau Anabolig-Androgenig - AAS)
Enwau ar y stryd
Roids, Rods
Gwybodaeth gyffredinol
Mae Steroidau yn gyffuriau sy’n dynwared rhai hormonau naturiol y corff sy’n rheoleiddio ac yn rheoli sut mae’r corff yn gweithio ac yn datblygu. Gallant gael eu defnyddio i wella perfformiad a dyfalbarhad ac ysgogi twf cyhyrau.
Maent yn cryfhau’r cyhyrau drwy ddargadw Nitrogen. Gallant fod ar ffurf tabled neu hylif a chwistrellir.
Risgiau
- Ymyrryd gyda thwf naturiol pobl ifanc
- Gallant gael effaith at y system atgenHeddlu -
- Mewn dynion: gallant achosi twf bronnau
- Mewn menywod: gallant achosi twf blew wyneb
- Problemau codiad
- Ceilliau’n crebachu
- Anffrwythlondeb
- Niwed i’r galon, afu ac arennau
- Perygl o farw
- Gall rhannu nodwyddau a chwistrellwyr ledaenu HIV, Hepatitis C a heintiau eraill
- Pryderon ynglŷn ag ansawdd a diogelwch y cyffur a chynhwysion amhur.
Effeithiau
- Gall helpu athletwyr i ymarfer am yn hirach ac yn galetach
- Adeiladu mas cyhyr. Gall hyn fod yn eithafol
- Teimladau o baranoia
- Bod yn groendenau
- Ymddygiad ymosodol a threisgar
- Newid dramatig mewn hwyliau
- Anhwylderau cysgu
- Newid mewn ysfa rywiol
- Gall achosi newidiadau nas dymunir mewn pryd a gwedd
- Acne.
Dosbarth
Dosbarth C ar gyfer cyflenwi, nid oes dosbarthiad ar gyfer meddiant