Dysgu Gyda'ch SHCY

Y mae Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan  yn gyfres o wersi sydd yn ymestyn o’r  Cyfnod Sylfaenol i Gyfnod Allweddol Pedwar (disgyblion 5 i 16 oed) gan godi ymwybyddiaeth o bynciau cymunedol ac yn hyrwyddo ataliad troseddau. Cyflwynir y negeseuon hyn gan Swyddogion Heddlu Cymunedol Ysgolion (SHCY).

Y mae’r Rhaglen yn gynllun gwaith troellog gyda phob gwers yn addas i oedran y plant â chynnwys cyfoes sydd yn adeiladu ar yr un flaenorol. Y mae’r matrics yn dangos ehangder y Rhaglen sydd ar gael i ysgolion. Matrics GwersiY mae gwaith i ddilyn ar y pynciau hyn ar gyfer athrawon ar gael yn adran yr athrawon.

Fel rhan o’r Rhaglen y mae bwlio seiber yn bwnc allweddol. Y mae rhai gwersi yn ymdrin yn uniongyrchol â’r pwnc tra bod eraill yn ei gynnwys fel elfen hanfodol. Cliciwch i cawr i weld ein gwersi ni:

Cyfnod Allweddol 2 Is Cadw'n SMART (7–9 mlwydd oed)

Cyfnod Allweddol 2 Uwch Byddwch yn Seiber Ddiogel (9 - 11 mlwydd oed)

Cyfnod Allweddol 3 Edrychwch Pwy sy’n Siarad (11-14 mlwydd oed)

Cyfnod Allweddol 3 Think U Know (11-14 mlwydd oed)

Cyfnod Allweddol 3 Pictiwr Peryg (11-14 mlwydd oed)