Y mae Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan yn gyfres o wersi sydd yn ymestyn o’r Cyfnod Sylfaenol i Gyfnod Allweddol Pedwar (disgyblion 5 i 16 oed) gan godi ymwybyddiaeth o bynciau cymunedol ac yn hyrwyddo ataliad troseddau. Cyflwynir y negeseuon hyn gan Swyddogion Heddlu Cymunedol Ysgolion (SHCY).
Y mae’r Rhaglen yn gynllun gwaith troellog gyda phob gwers yn addas i oedran y plant â chynnwys cyfoes sydd yn adeiladu ar yr un flaenorol. Y mae’r matrics yn dangos ehangder y Rhaglen sydd ar gael i ysgolion. Matrics Gwersi. Y mae gwaith i ddilyn ar y pynciau hyn ar gyfer athrawon ar gael yn adran yr athrawon.
Fel rhan o’r Rhaglen edrychir ar sawl math o gyfathrebu digidol gan gynnig cyngor ar sut i gadw’n ddiogel tra’n defnyddio ffonau symudol. Mae’r gwersi canlynol yn delio’n uniongyrchol gyda’r testun. Disgrifir pob un isod: