Alcohol
Alcohol (Ethanol, Ethyl Alcohol)
Enwau ar y stryd
Booze, Tipple, Tot, Nip, Bevy
Gwybodaeth gyffredinol
Cynhyrchir Alcohol drwy eplesu ffrwythau, llysiau neu rawn. Defnyddir Alcohol yn eang yng Nghymru ac mae wedi dod yn rhan o ddiwylliant Cymru. Caiff ei amsugno i lif y gwaed o fewn 5-10 munud ac mae’r effeithiau’n dechrau’n gyflym. Mae diodydd alcoholaidd yn cynnwys Ethanol. Toddydd yw Ethanol a ddefnyddir mewn paent, persawrau, colognes, peniau marcio a diaroglyddion. Mae’n anghyfreithlon i roi diod alcoholaidd i blentyn dan 5 oed oni bai bod hynny dan oruchwyliaeth feddygol mewn argyfwng. Gall plant dan 16 oed fynd i mewn i dafarn cyn belled eu bod o dan oruchwyliaeth oedolyn (18 a throsodd). Gall pobl ifanc 16 a 17 oed yfed cwrw, gwin neu seidr gyda phryd o fwyd os caiff ei brynu gan oedolyn a’u bod yng nghwmni oedolyn. Mae’n anghyfreithlon i werthu alcohol i rywun dan 18 oed. Mae Alcohol i’w gael mewn gwahanol gryfderau ac fe’i mesurir fel canran o’r cyfaint. Uchaf y ganran, cryfaf y diod.
Effeithiau:
- Mae’r effeithiau uniongyrchol yn dibynnu ar faint a yfir, oedran, rhyw a chorffolaeth
- Bydd Alcohol yn aml yn gorliwio’r hwyliau y mae rhywun ynddo pan fydd yn dechrau yfed
- Gall dim ond digon wneud i chi deimlo’n dda ond os yfwch ormod bydd popeth ar ben
- Yn y tymor byr bydd defnyddwyr yn teimlo wedi ymlacio gyda llai o swildod ac mae alcohol yn effeithio ar amseroedd adweithio a’r penderfyniadau a wneir
- Gall defnydd trymach ar alcohol arwain at deimlo anterth ac iselder emosiynol, symudiad afrosgo, llewyg, a mynd yn ddiymadferth
- Gall gormod o alcohol roi pen mawr (ôl-effeithiau alcohol) i chi a gallwch deimlo’n sâl am ddiwrnod neu ddau.
Risgiau:
- Gall alcohol achosi person i deimlo allan o reolaeth – siarad yn aneglur, colli cydbwysedd a chwydu
- Damweiniau - o ganlyniad i fethu pwyso a mesur
- Mygu o ganlyniad i lyncu chwŷd pan yn anymwybodol
- Pwysedd gwaed uwch
- Iselder
- Mynd yn gaeth
- Niwed i organau yn cynnwys yr afu, yr ymennydd a’r stumog
- Anawsterau rhywiol
- Crynu’n ddireolaeth (Delirium Tremens – a elwir yn ‘DT’s’ neu’n ‘shakes’)
- Gall alcohol wneud i bobl fynd yn dreisgar
- Gall goryfed difrifol arwain at wenwyno alcohol a all arwain at goma neu farw.
Dosbarth
Di-ddosbarth
Mae’n anghyfreithlon i werthu alcohol i rywun dan 18 oed