Cynhadledd Cadw’n Ddiogel Ar-lein 2023
Radicaliaeth Ar-lein ac Eithafiaeth
Cynhadledd un diwrnod ar gyfer ymarferwyr addysg a gweithwyr proffesiynol yng Nghymru
Roedd y cynadleddau hyn yn Llandudno a Chaerdydd ym mis Mawrdd 2023 yn gyfle i rannu gwybodaeth allweddol am wydnwch digidol, a chynnig argymhellion i ysgolion ar yr arfer orau wrth fynd ati i weithredu diolgelwch ar -lein
Cafodd y digwyddiadau hyn eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, ac maent wedi eu teilwra er budd ymarferwyr addysg a gweithwyr proffesiynol gan gynnwys athrawon, arweinwyr diogelu o’r awdurdodau addysg ac aelodau o’r consortia addysg rhanbarthol.
Gweithio i atal Radicaleiddio Ar-lein ac Eithafiaeth
Nod Rhaglen Ysgolion Heddlu CymruWales Police Schools Programme yw amddiffyn plant drwy ddarparu Swyddog Heddlu Ysgolion fel aelod ymddiriedol o gymuned yr ysgol. Mae’r SHY yn gweithio drwy’r flwyddyn i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag niwed ar-lein.
Blog Swyddog: Atal Eithafiaeth
Mewn cyfnod pan welir bygythiadau a gweithgarwch terfysgol ar y newyddion mae’n naturiol fod rheini’n teimlo’n bryderus ynglŷn â sut caiff eu plant eu dylanwadu ar-lein. Mae’n wir fod eithafwyr yn defnyddio’r rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo eu ideoleg a recriwtio neu radicaleiddio pobl ifanc, ond rhaid cofio fod hyn yn brin.
Yn y flog mae ein Swyddog Heddlu Ysgolion yn rhoi cyngor ac yn cyfeirio at ffynnonellau lle gellir dargafod cymorth a chefnogaeth os oes gennych bryder am eich plentyn a radicaleiddio. Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig arweiniad i rieni a gwarchodwyr ar-lein.
SchoolBeat: Llyfrau gweithgareddau
Gallwch adrodd cynnwys sy’n ymwneud â therfysgaeth i Uned Cyfeirio Rhygrwyd Gwrth-Derfysgaeth yr Heddlu.
Os ydych yn poeni fod eich plentyn, aelod o’r teulu neu ffrind yn cael ei radicaleiddio gallwch ofyn am gymorth gan yr Heddlu drwy ffonio 101. Os yw’n briodol gallwch lenwi ffurflen gyfeirio Prevent er mwyn derbyn cefnogaeth diogelu lleol.
Os yw aelod o’ch teulu neu rywun rydych yn gofalu amdanynt wedi cael eu cyfeirio at dîm Prevent, gall y daflen wybodaeth hon fod o gymorth:
Adnoddau SchoolBeat
Gall eich Swyddog Heddlu Ysgolion gyflwyno gwersi yn yr ysgol i godi ymwybyddiaeth o radicaleiddio ac eithafiaeth. Mae’r cyflwyniadau byrrach canlynol yn addas ar gyfer dysgwyr oedran Cynradd:
- Stori Pedwar Ffrind
- Chwarae’n Deg
Mae’r wers Egin Eithafiaeth yn addas ar gyfer dysgwyr oedran Uwchradd, a’r nod yw datblygu dealltwriaeth o radicaleiddio ac annog eraill i weithredu ar eu pryderon.
Hefyd, mae cyflwyniadau byrrach ar gael ar eich cais i ysgolion yng Ngymru:
- Gan Bwyll a Dysgwch y Ffeithiau
- Meddyliwch Ddwywaith
- Trosedd Casineb
- Ffrindiau Seiberddiogelwch
SchoolBeat: Ymddygiad-Uwchradd – mae ar y tab “Cultural Identity“ adnoddau estynedig am Eithafiaeth