Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

DNP

DNP

2,4-Dinitrophenol

Gwybodaeth Cyffredinol

Er bod DNP wedi cael ei werthu fel cyffur colli pwysau neu fagu cyhyrau, mae’n gemegyn diwydiannol anaddas i’w fwyta ac sy’n anghyfreithlon i’w ddefnyddio mewn bwydydd.  Er gwaethaf pob ymdrech i dynnu DNP oddi ar y farchnad, mae’n bosibl ei gael o hyd.  Yn y DU cafwyd nifer o adroddiadau fod pobl ifanc wedi mynd yn sâl o ganlyniad i ddefnyddio DNP ac mae rhai hyd yn oed wedi marw. (Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Lloegr)

Effeithiau

  • Mae pobl sy’n ceisio newid eu hymddangosiad yn debygol o ddefnyddio DNP, er enghraifft pobl sydd eisiau magu cyhyrau a phobl sydd eisiau colli pwysau.

Risgiau

  • Mae symptomau gwenwyniad difrifol yn cynnwys  gwres uchel, dadhydradu, teimlo’n sâl, taflu i fyny, anesmwythder, croen gwridog, chwysu, pendro, cur pen, anadlu cyflym a churiad calon cyflym neu afreolaidd.
  • Gall y symptomau hyn arwain at goma a marwolaeth er gwaethaf y gofal meddygol gorau bosibl.
  • Gall cymryd llai o’r cyffur dros gyfnodau hirach arwain at gataractau a briwiau ar y croen a gall effeithio ar y galon, y gwaed a’r system nerfol.
  • Mae’r effeithiau gwenwynig, gan gynnwys gorddos  yn fwy cyffredin ar ôl cymryd dosau uchel o’r cyffur ond gallant ddigwydd ar ôl cymryd y dosau a argymhellir ar wefannau neu gan gyflenwyr.
  • Mae gwenwyniad ar ôl cymryd DNP yn anodd ei ddarogan gan y gall ddigwydd ar ôl cymryd y sylwedd am gyfnodau hir heb unrhyw sgil effeithiau amlwg.

Dosbarth

Di-ddosbarth