Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

Dragonfly

Bromo-Dragon Fly (Bromo-benzodifuranyl-isopropylamine)

Enwau ar y stryd

B dragonfly, B-Fly, Fly

Gwybodaeth gyffredinol

Mae sylwedd seicoweithredol rhithweledigaethol pwerus, sy’n boblogaidd mewn gwyliau ym Mhrydain, yn peri pryder ymhlith gweithwyr proffesiynol iechyd. Rydym yn gwybod bod Bromo-Dragonfly yn weithredol mewn dosau isel iawn. Er ei fod yn perthyn yn gyffredinol i Phenethylamine, mae iddo strwythur pendant ac mae’n perthyn i ddosbarth o sylweddau a elwir yn benzodifurans. Mae BDF pur yn lliw gwyn neu lwydwyn.

Canfuwyd B-fly yn wreiddiol gan Brosiect yr Undeb Ewropeaidd drwy chwiliadau a gynhaliwyd yn yr Eidal, Norwy, Gwlad Belg a’r Ffindir yn 2008. Fodd bynnag, gellir olrhain yr achosion cyntaf yr adroddwyd arnynt yn ôl i 2001.

Yn nodweddiadol caiff ei werthu ar-lein ar ffurf papur blotio, hylif ac yn llai cyffredin fel tabledi. Y brif ffordd i’w gymryd yw drwy’r geg. Wedi ei amlyncu efallai y bydd oedi am hyd at 6 awr cyn y gwelir ei effeithiau. Yn aml mae’r oedi hwn wedi gwneud i’r defnyddiwr amlyncu dos arall o’r cynnyrch gan feddwl nad oedd y ddos gyntaf yn ddigonol i gael effaith a/neu yn defnyddio cyffuriau ychwanegol tra’n aros am yr effeithiau seicoweithredol cyntaf i ddigwydd.

Mae B-fly yn sylwedd gwenwynig iawn ac mae perygl gorddosio yn uchel iawn. Ers 2007 cofnodwyd amrywiaeth o achosion o fynd i’r ysbyty a marwolaethau mewn gwahanol Aelod Wledydd yr UE megis Sweden, Denmarc a’r DU. Ym mis Hydref 2009, cafodd Bromo-Dragonfly fwy o sylw mewn cymunedau fforwm cyffuriau ar-lein, pan gafodd swmp ei gam-labelu a’i werthu gan fanwerthwr ar-lein fel y cyfansoddyn 2C-B-Fly Benzodifuran sy’n perthyn, ond sy’n llawer llai pwerus. Mae hyn wedi ei gysylltu i nifer o farwolaethau a gorddosio heb farw yn Ewrop ac UDA.

Effeithiau

  • Tebyg i LSD ond yn para’n llawer hirach (2-3 diwrnod) - Gall ‘trip’ ymddangos i gynnwys cyflymu ac arafu amser a symudiadau, tra bod lliwiau, sŵn a gwrthrychau’n cael eu haflunio. Mae defnyddwyr yn cael rhithweledigaethau (gweld a/neu glywed pethau sydd ddim yno)
  • Teimlo’n flinedig, pryderus, mewn panig ac isel eich ysbryd
  • Rhithweledigaethau amhleserus, brawychus a’ch synhwyrau wedi eu haflunio – a gall yr effeithiau hyn fod yn eithaf anrhagweladwy
  • Mae’n cymryd cryn amser i’r effaith ddigwydd ac yna gall bara am 2-3 diwrnod 

Risgiau

  • Mae adweithiau andwyol a soniwyd amdanynt yn cynnwys: cyfog a chwydu, cur pen, gorbwysedd, chwimguriad y galon, pwysedd gwaed uchel, cwymp yr ysgyfaint, aflonyddwch ar y bibell gastroberfeddol, tensiwn yn y cyhyrau, cryndod, newid yn nhymheredd y corff, pryder, ymosodiadau panig, arhythmia, murmur y galon, cannwyll y llygad yn ymledu ychydig, confylsiwn, tyndra yn y stumog, rhithweledigaethau, ôl-fflachiau, amhariadau ar y cof, dryswch a hyd yn oed ymosodiadau pryder aciwt
  • Gall gael goblygiadau difrifol, mwy hir dymor ar gyfer rhywun sydd â hanes o broblemau iechyd meddwl. Gall hefyd fod yn gyfrifol am ddechrau problem iechyd meddwl na sylwyd arni’n flaenorol
  • Perygl gorddosio gan fod effeithiau’n cymryd amser i ddatblygu ac felly gall defnyddwyr ail-ddosio gan feddwl bod angen rhagor o’r cyffur

Dosbarth

Di-ddosbarth