Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

Salvia Divinorum

Salvia Divinorum

Enw ar y stryd

Salvia

Gwybodaeth gyffredinol

Mae Salvia Divinorum yn blanhigyn rhithweledigaethol cynyddol boblogaidd, dwys a chyflym ei effaith. Mae’n gyfreithlon mewn sawl gwlad Ewropeaidd (yn cynnwys y DU) ac yn gynnyrch poblogaidd iawn mewn siopau ar-lein, fforymau trafod ac ar YouTube. Mae Salvia Divinorum yn blanhigyn gwyrdd dail meddal sy’n frodorol i dde Mecsico ac yn cynnwys cemegyn seicoweithredol cryf a adwaenir fel Salvinorin A. Fe’i defnyddid yn draddodiadol ym Mecsico ar gyfer iachau a dewiniaeth a daeth ar gael yn y diwylliant seicodelig tanddaearol o amgylch y byd yn y 1990au cynnar. Adwaenir y planhigyn fel ‘Diviner’s Mint’ neu ‘Diviner’s Sage’ ac yn fwyaf cyffredin fel Salvia.

Cafodd Salvia Divinorum ei gofnodi gyntaf mewn llenyddiaeth orllewinol ym 1939. Parhaodd yn gyffur hamdden anhysbys hyd canol y 1990au pan ddechreuwyd gwerthu’r dail ar y rhyngrwyd.

Caiff llawer o bobl hi’n anodd i gael yr effaith lawn drwy ysmygu dail Salvia Divinorum sych. Mae’r rhai hynny sy’n llwyddo fel arfer angen ‘hits’ mawr ac aml o bibell neu bong. Dos nodweddiadol a ysmygir â deilen blaen yw rhwng 0.2 i 0.5 gram, tua un ddeilen sych fawr. Mae echdyniadau Salvia Divinorum fel arfer yn dod mewn crynodiadau 5x, 10x a 20x. Bydd cryfder y crynodiad yn lleihau’n ddramatig y deunydd sydd ei angen. Gall un ‘hit’ o’r sylwedd fod yn fwy na digon i gael effaith rymus ar y meddwl.

Pan gaiff ei ysmygu bydd effaith Salvia Divinorum fel arfer yn digwydd yn gyflym iawn. Sylwir ar yr effeithiau cyntaf rhwng 2-60 eiliad ar ôl ysmygu, gan gynyddu i effeithiau brig o fewn 1-2 funud. Mae’r effeithiau yn parhau am rhwng 5 a 15 munud. Yna mae cyfnod gostwng o 20-40 munud cyn dychwelyd i’r waelodlin.

Nid ydym yn gwybod a yw Salvia Divinorum yn gorfforol gaethiwus neu’n debygol o achosi dibynadwyedd seicolegol. Ni soniwyd am effeithiau diddyfnu pan roddir y gorau i’w gymryd. Nid yw’n ymddangos bod unrhyw oddefedd gyda Salvinorin-A, felly gall profiad gael ei estyn neu ei gynyddu drwy ysmygu rhagor. 

Effeithiau

  • Gwelediadau grymus pan fydd y llygaid ynghau ac ar agor
  • Gwerthfawrogiad synhwyrus ac esthetig gwell
  • Profiad creadigol tebyg i freuddwyd
  • Newid cyffredinol mewn ymwybyddiaeth (fel gyda’r rhan fwyaf o gyffuriau seicoweithredol)
  • Newid mewn canfyddiadau
  • Newid yn nhymheredd y corff, gwrido
  • Synnwyr o wthiad, gwasgedd corfforol neu wynt
  • Synnwyr o fynd i neu ganfod dimensiynau eraill, realaethau eraill
  • Teimlad o ‘bresenoldeb’ neu gyswllt endid
  • Datgysylltedd wrth gymryd dosau trwm
  • Diffyg amynedd cymedrol yn dilyn ei ddefnyddio.

Risgiau

  • Profiadau gorddwys
  • Ofn, braw a phanig
  • Chwysu mwy
  • Anhawster posibl i integreiddio profiadau
  • Gall dosau uwch achosi anallu i reoli cyhyrau a chynnal cydbwysedd: sonir am gwympiadau
  • Cur pen mwyn i gymedrol gan ddechrau fel arfer ar ôl i’r effeithiau bylu
  • Mae rhai defnyddwyr Salvia Divinorum yn sôn am gosi anghyfforddus yn y gwddf a’r ysgyfaint ar ôl ei ddefnyddio.
  • Gall defnyddio Salvia Divinorum beri rhagor o anhawster ar gyfer y rheiny sy’n dioddef o gynnwrf emosiynol neu seicolegol yn eu bywyd bob dydd.
  • Gallai defnyddio Salvia Divinorum gan y rhai hynny â hanes teuluol o sgitsoffrenia neu ddechreuadau salwch meddwl cynnar beri problem seicolegol a meddyliol sydd ynghudd.

Dosbarth

Di-ddosbarth