Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

Ocsid Nitraidd

Ocsid Nitraidd (N2O)

Enwau ar y stryd

Nwy chwerthin, Hippy-crack 

Gwybodaeth gyffredinol

Nwy syml yw Ocsid Nitraidd (N2O) a fydd, pan gaiff ei fewnanadlu, yn achosi esmwythyd cyflym o boen, ewfforia, tawelyddiad cymedrol ac weithiau datgysylltiad seicedelig. Mae wedi ei ddefnyddio ym maes deintyddiaeth ers canol y 1800au ac at ddibenion hamdden ers diwedd y 1700au pan roddwyd yr enw nwy chwerthin iddo oherwydd y tuedd i’r rheiny sy’n ei fewnanadlu i chwerthin. Yn y DU gwelir Ocsid Nitraidd yn fwyaf cyffredin mewn gwyliau cerddoriaeth a phartïon am ddim.

Defnyddir Nitraidd yn fwyaf aml ar ffurf ‘whipped cream chargers’, cetrys metal bach gânt eu cracio i beiriant hufen chwip (‘charger’) neu â chracer arbennig i falŵn ar gyfer ei fewnanadlu. Mae cetris sengl yn cynnwys rhwng un a thri llond ysgyfaint o nwy. Mae un neu ddau lond ysgyfaint fel arfer yn ddigon ar gyfer profiad nitrus byr, er bod llawer o bobl yn defnyddio sawl cetrys mewn un noson.

Mae gwefannau yn y DU yn gwerthu bocsys o 24 peiriant ‘hufen whip’ (llawn o ocsid nitrus) am tua £5 - £10. Mewn gwyliau bydd cyflenwyr masnachol yn aml yn codi £2.50 am falŵn llawn nwy.

Yn y DU mae bod ym meddiant nitraidd ar gyfer defnydd nad sy’n cynnwys ei fewnanadlu yn gyfreithlon i’r rhai hynny sydd dros 18 oed. Mae’n anghyfreithlon mewnanadlu ocsid nitraidd, er mai anaml y caiff hyn ei orfodi ac mae’n anghyfreithlon gwerthu nitraidd i rai dan 18 oed. Mae gwerthiannau ‘charger’ nitrus dros y rhyngrwyd yn gwneud terfynau oedran yn anodd ei orfodi.

Pan gaiff ei fewnanadlu, bydd Nitraidd fel arfer yn cyrraedd ei effaith llawn o fewn ychydig eiliadau. Mae’r effeithiau a geir o un mewnanadliad Ocsid Nitraidd yn para ychydig funudau. Mae mwyafrif defnydd hamdden Nitraidd yn cynnwys nifer o fewnanadliadau dros gyfnod o amser.

Mewn cymwysiadau meddygol rhoddir Nitraidd ar y cyd ag Ocsigen. Nid oes yn rhaid mewnanadlu Nitraidd ar ei ben ei hun i gael yr effaith lawn; mae’r effeithiau yn ganlyniad i gael nitrus yn y system, nid prinder ocsigen. Mae’n bwysig i ddefnyddwyr anadlu aer rhwng yr ‘hits’.

Mae dyrnaid o bobl yn yr Unol Daleithiau wedi mygu wrth i’r falŵn neu’r cwdyn a ddefnyddir i fewnanadlu'r Nitraidd yn aros ar wyneb y person wrth iddynt fynd yn anymwybodol.

Effeithiau

  • Mae’n achosi rhyddhad cyflym o boen
  • Ewfforia 
  • Tawelyddiad cymedrol 
  • Weithiau ceir effeithiau datgysylltiad seicedelig
  • Pen mawr

Risgiau

  • Mae Nitrus wedi ei alw’n Hippy-crack oherwydd ei fod yn cynnig ei hun i’w ddefnyddio sawl tro ac yn ddefnydd cymhellol i rai pobl
  • Damweiniau yn digwydd i ddefnyddwyr pan fyddant o dan ei effeithiau
  • Gall defnydd trwm ar Nitrus arwain at leihad mewn fitamin B12. Gall hyn achosi colli teimlad y terfynau nerfol mân, yn enwedig o amlwg ym mysedd a’r bodiau traed. Gall ychwanegiadau B12 leihau’r siawns i hyn ddigwydd mewn defnyddwyr trwm. Rhoddir dosau o B12 fel triniaeth pan feir lleihad difrifol o B12. Os gadewir diffyg B12 heb ei drin gall arwain at niwed tymor hir. 

Dosbarth

Di-ddosbarth