Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

NRG-2

NRG-2 4-Methylethylcathinone (Methylethylcathinone)

Enwau ar y stryd

NRG2, Energy 2, Eric 2, 4-Mec, N-Cat

Gwybodaeth gyffredinol

Cyfatebiaeth ethyledig o cathinone yw 4-Methylethcathinone (4-MEC), sy’n debyg mewn strwythur a gweithgarwch i Mephedron, ond gydag atom dirprwyol ethyl o’r atom nitrogen yn hytrach na methyl mewn Mephedron.  Mae wedi ei farchnata ar y rhyngrwyd fel cyffur newydd sy’n ymddangos o dan yr enwau masnachu NRG2 a N-Cat. Fel pob sylwedd seicoweithredol, nid yw’r ffaith ei fod yn gyfreithlon yn golygu ei fod yn ddiogel. Ar hyn  o bryd ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael am y cyffur newydd sy’n ymddangos hwn. 

Effeithiau

Dywedwyd y canlynol mewn fforymau cyffuriau: 

  • Tebyg ond ysgafnach na’r rhan fwyaf o symbylyddion clasurol
  • Ewfforia/symbyliad
  • Cynnydd mewn egni
  • Codi hwyliau
  • Wedi ymlacio/teimlo’n ‘chilled’
  • Empathi
  • Teimladau od/’trippy’
  • Bod yn siaradus
  • Cynnydd mewn libido 

Risgiau

Dywedwyd y canlynol mewn fforymau cyffuriau:

  • Syrthni wedi ei ddefnyddio a blys
  • Dryswch
  • Pryder
  • Cryndod/jitters
  • Cyfog/chwydu
  • Poen yn y trwyn (mewnanadlu)
  • Nystagmus (dim rheolaeth dros symudiad y llygad) a chwysu

Dosbarth

Di-ddosbarth