Perfformiad theatrig addysgol i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb ymhlith pobl ifanc i fynd ar daith i Ysgolion yn Dyfed-Powys
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, wedi comisiynu cwmni theatr, Mewn Cymeriad i gynhyrchu drama fer i ddisgyblion blwyddyn 8 mewn Ysgolion Uwchradd, i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb, sydd i gael ei lansio fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb ym mis Hydref.
Yn dilyn derbyn y nawdd gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, mae Mewn Cymeriad wedi bod yn gweithio gyda’r awdur a’r dramodydd enwog Manon Steffan Ros i greu drama un dyn, Gymraeg a Saesneg, a fydd yn teithio o amgylch ysgolion uwchradd o’r 11eg o Hydref ymlaen.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn; “Gall profi troseddau casineb fod yn brofiad hynod o frawychus, yn enwedig i bobl ifanc, ac yn brofiad na ddylid ei ddioddef. Trwy gomisiynu’r gwaith hwn, heb os, bydd yn annog trafodaethau ynghylch y gwahanol fathau o droseddau casineb sy’n effeithio ar bobl ifanc, a sut y gallant yn aml gynyddu i droseddau neu densiwn pellach.
“Nawr yn fwy nag erioed mae'n bwysig i ni i gyd ddeall mwy am droseddau casineb a'r effaith y mae'n ei gael ar ddioddefwyr, eu teuluoedd a'n cymunedau. Mae'n allweddol parhau â sgyrsiau yn ein cymunedau ynghylch o ble mae troseddau casineb yn dod a sut y gall pob un ohonom chwarae rhan wrth fynd i'r afael ag ef ac adrodd am yr hyn a welwn.
“Gobeithio y bydd y gwaith hwn yn addysgu pobl ifanc am eu cyfrifoldebau fel dinasyddion ifanc ac yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau iddynt i helpu i herio’r agweddau a’r ymddygiadau sy’n arwain at droseddu casineb.”
Dywedodd Eleri Twynog, Cyfarwyddwr Artisitig Mewn Cymeriad; “Gall troseddau casineb fod mor niweidiol i ddioddefwyr ifanc, gan effeithio ar eu haddysg, eu hyder a’u lles. Rydym ni fel cwmni yn falch o'r bartneriaeth newydd hon gyda Heddlu Dyfed Powys a'r awdur Manon Steffan Ros i gyflwyno pwnc sy'n berthnasol iawn i'r byd heddiw. Y gobaith yw y bydd y gwaith yn annog trafodaeth bellach ac yn helpu i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o effeithiau troseddau casineb yn ein cymunedau.”
Bydd y cynhyrchiad yn gweld yr actor, Morgan Llywelyn Jones, yn chwarae rôl tri pherson gwahanol - y tramgwyddwr, yr un sy'n anwybyddu'r drosedd, a'r dioddefwr.
Bydd staff Tîm Ysgol Heddlu Dyfed-Powys yn darparu gweithdai ar Droseddau Casineb i ddisgyblion blwyddyn 8 yn dilyn pob perfformiad gyda'r nod o annog trafodaeth bellach ar y pwnc.
Dywedodd Rheolwr Rhaglen Ysgolion Heddlu Dyfed-Powys, Bethan James; “Un o'r dulliau mwyaf effeithiol i atal troseddau casineb yw addysgu plant mor gynnar â phosibl nad oes unrhyw beth o'i le â bod yn wahanol a bod troseddau casineb - efallai galw enwau ar rywun oherwydd bod ganddyn nhw liw croen gwahanol – mae hyn bob amser yn anghywir.
“Mae ysgolion mewn partneriaeth â Rhaglen Ysgolion Heddlu Cymru eisoes yn cyflwyno sesiynau i blant sy’n canolbwyntio ar ddathlu gwahaniaethau ac atgoffa plant i ystyried teimladau eraill.
“Yn seiliedig ar ymchwil, rydym yn gwybod bod llawer o blant a phobl ifanc yn ymgysylltu ac yn dysgu’n fwy effeithiol i berfformiad artistig sy’n delio â stori a chydag emosiynau, yn hytrach na chael eu haddysgu mewn senario ystafell ddosbarth yn unig. Credwn y bydd y prosiect hwn yn cefnogi ymhellach y gwaith a wneir gan dîm y Swyddog Heddlu Ysgol trwy gyrraedd y plant hynny y mae'n well ganddynt gael profiad dysgu mwy ymarferol. Bydd hyn yn ei dro yn arwain at unigolion mwy hyderus ac at gymuned fwy goddefgar a chefnogol y tu mewn a'r tu allan i ysgolion.
Bydd y cynhyrchiad yn lansio ar 11eg o Hydref yn Ysgol Gyfun y Strade fel rhan o wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb, a bydd yn ymweld ag ysgolion uwchradd eraill yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn ystod yr wythnos.”
Os oes gan unrhyw ysgol ddiddordeb i archebu’r sioe, gallant gysylltu â Mewn Cymeriad yn uniongyrchol trwy e-bostio; gwyb[at]mewncymeriad[dot]cymru
Rhagor o fanylion:
Gruff Ifan
Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu