Mae'n
anodd bod yn dy arddegau ar brydiau! Ni fu tyfu i fyny erioed yn hawdd!
Mae pawb sydd o amgylch person ifanc yn awyddus i roi eu cyngor… a'u
barn
Maen nhw i gyd wedi bod drwyddo o'r blaen.
Rydym yn falch o gael cyhoeddi lansiad y cyntaf mewn cyfres newydd o Becynnau Goroesi SchoolBeat.
Wedi'i ysgrifennu ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 ac 16oed ar ffurf cyfnodolyn, mae ein rhifyn cyntaf yn archwilio Perthynas.
Bydd y bobl ifanc sy'n defnyddio'r pecyn goroesi hwn yn cael cyfle i archwilio pwy ydyn nhw, edrych ar yr heriau maen nhw'n eu hwynebu o ddydd i ddydd, a dadansoddi pwysigrwydd cyfeillgarwch personol. Rydym ni hefyd yn edrych ar y gwahanol berthnasoedd y byddan nhw'n dod ar eu traws a phwysigrwydd cydsyniad a sut i gyfathrebu hyn mor effeithiol â phosibl.
Dadlwythwch a rhannwch yr adnodd hon (ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg):