Diwrnod Rhuban Gwyn 2020
25.11.2020
Gan sefyll ar y cyd â'r genedl, i godi ymwybyddiaeth o Ddiwrnod Rhuban Gwyn 2020, mae Swyddogion Heddlu Cymunedol Ysgolion (SHCY) Cymru a holl dîm SchoolBeat, eisiau hyrwyddo hawliau menywod o bob oed, i gael eu diogelu rhag trais o bob math a cham-driniaeth.
Mae gan SchoolBeat nifer o wersi sy'n codi ymwybyddiaeth am berthnasoedd mwy diogel. Mae’r SHCY yn cyflwyno mewnbynnau ledled Cymru o amgylch themâu fel cam-drin domestig, cydsyniad rhywiol a Diogelwch y Rhyngrwyd.
Mae'r ffilm ‘Niwed Cudd’, sydd wedi ennill nifer o wobrau, yn helpu pobl ifanc i adnabod arwyddion cam-drin mewn perthynas afiach a ble i ddod o hyd i help a chefnogaeth. Yn y ffilm gwelwn sut mae Rhys yn defnyddio rheolaeth orfodol, bygythiadau, trais ac ymddygiadau ymosodol eraill i ynysu Carys oddi wrth deulu a ffrindiau a sut mae hi'n cael ei helpu i dorri'n rhydd o'r rheolaeth hon a chychwyn ar y daith o adferiad.
Os ydych chi, neu unrhyw un rydych chi'n ei adnabod yn profi perthynas ymosodol, cysylltwch â llinell gymorth Byw Heb Ofn | LLYW.CYMRU
Gallwch hefyd ffonio rhif di-argyfwng 101 yr Heddlu.
Cofiwch mewn argyfwng, deialwch 999. Bydd yr Heddlu'n helpu unrhyw bryd, ddydd neu nos!
Am fwy o wybodaeth edrychwch ar ein adnoddau athrawon ar gyfer Niwed Cudd a Na yw Na ar SchoolBeat: Diogelwch - Uwchradd