Bydd PC Dylan Pritchard a PC Owain Edwards o Heddlu Gogledd Cymru yn cychwyn ar her redeg ddydd Gwener, 8fed Ebrill i godi arian i UNICEF.
Gan fod PC Dylan a PC Owain yn swyddogion ysgol, maen nhw wedi penderfynu ymgorffori'r pum ysgol uwchradd y maen nhw'n cydweithio a nhw yn eu taith.Bydd yr ysgolion hefyd yn cefnogi ein swyddogion drwy gymryd rhan mewn diwrnod di-wisg.
Bydd y rhediad yn cychwyn o Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon am 9yb, rhedeg i Ysgol Brynrefail, Llanrug, draw i Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda (dros Ddeiniolen a Mynydd Llandygai!) ac yna lawr i Fangor i Ysgol Tryfan a gorffen yn Ysgol Friars erbyn y gloch olaf am 3.15pm. Mae’n daith oddeutu 18 milltir.
Os ydych yn ysgol o fewn y rhanbarth ac o bosibl ar y ffordd, dewch allan i ddangos eich cefnogaeth.
Hefyd, Os hoffech chi ddangos eich cefnogaeth trwy gyfrannu, defnyddiwch y ddolen ganlynol –