2-DPMP
2-DPMP (desoxypipradrol)
Enwau’r Stryd
Desoxypipradrol, Diphenylmethylpyrrolidine, Ivory Wave, Purple Wave, Vanilla Sky.
Gwybodaeth Cyffredinol
Mae 2-DPMP yn fath o symbylydd amffetamin grymus iawn sydd wedi ei ddarganfod mewn rhai cynnyrch Ivory Wave. Er na ellir dweud gyda sicrwydd beth sydd mewn unrhyw gynnyrch a werthir fel Ivory Wave. gwyddom fod adroddiadau am effeithiau symbylydd cryf, gydag effeithiau tebyg i Amffetaminiau a MDMA ( Ecstasi)
Effeithiau
- Mae effeithiau 2-DPMP yn para’n hir ac yn gallu achosi cynnwrf difrifol sy’n gallu para am sawl diwrnod wedi un dos.
- Teimladau o ewfforia,bywiogrwydd, siaradus ac empathi.
- Poenau yn y frest, pryder ac anhunedd
- Cynnwrf difrifol, rhithweledigaethau a pharanoia
Risgiau
- Mae’n gallu achosi newid hwyliau a theimladau o bryder, ymddygiad ymosodol a pharanoia.
- Gall fod yn wenwynig i’r ymenydd, yn achosi gor-symbylu’r system nerfol gyda chynnwrf, rhithweledigaethau neu achosi ffitiau.
- Gall or-gynhyrfu’r galon ac mae adroddiadau am newid mewn pwysedd gwaed
- Mae hanes am newid i dymheredd y corff allai fod yn beryglus ac mae perygl o fethiant yr arennau.
- Achosion o fynediad i ysbyty. Hyd at Hydref 2011 cysylltir 3 marwolaeth gyda’r defnydd o 2-DPMP.
Dosbarth
Dosbarth B