Benzo Fury
Benzo Fury 6-APB (1-(benzofuran-6 yl) propan-2-amine)
Enw ar y stryd
Benzo Fury
Gwybodaeth gyffredinol
Mae Benzo Fury yn enw sydd wedi ei frandio ar gyfer cemegyn ymchwil ac anterth cyfreithiol 6-APB (1-(benzofuran-6 yl) propan-2-amine). Symbylydd synthetig yw’r sylwedd. Mae dadansoddiad o rai profion wedi dangos ei fod yn cynnwys sylweddau eraill megis D2PM (Diphenylprolinol). Nid yw 6-APB wedi ei asesu’n iawn o ran gweithrediad ffarmacolegol, ond ar sail ei debygrwydd cemegol i amffetaminau a chyfansoddion methylenediocsy, mae’n debygol o weithredu fel cyfrwng rhyddhau ac atalydd ail-gymryd serotonin a dopamine. Gellir ei ganfod ar ffurf pelenni neu bowdr gwyn.
Effeithiau
- teimlad o symbyliad a chyffro, canfyddiad o gynnydd mewn egni a bywiogrwydd
- awydd i siarad,
- canolbwyntio gwael
- rhithweledigaethau gweledol a chlywedol (clywed a gweld pethau)
- blys i ail-ddosio
- newidiadau yn nhymheredd y corff
- llai o archwaeth
- cannwyll y llygad yn ymledu
- chwysu
- rhincian dannedd, tynhau’r safn
- ceg sych, mwy o syched
- methu cysgu/insomnia.
Risgiau
- pryder, paranoia
- canolbwyntio gwael
- dryswch meddwl
- cof tymor byr gwael
- cynnydd yng nghyfradd y galon
- cynnydd pwysedd gwaed
- poenau yn y frest/ crychguriadau.
Dosbarth
Dosbarth B (ers 10/6/2014)