NRG-1
NRG-1 (Naphthylpyrovalerone)
Enwau stryd
NRG-1, Energy-1, Energy-1 and Rave
Gwybodaeth Cyffredinol
Cyffur symbylol yw Naphyrone. Mae’n perthyn yn agos i ‘ddeilliadau cathinone,‘ gan gynnwys Mephedrone. Dyma grŵp o gyffuriau sy’n gefndryd i deulu cyfansawdd yr amffitaminiau. Mae’n bowdr lled wyn/melyn sy’n cael ei ffroeni (fel Cocên) neu ei lapio mewn papur a’i lyncu. Os yw’r cyffur yn cael ei ffroeni - defnyddir llafn rasel i’w rannu’n linellau ar ŵyneb caled megis drych neu ddarn o wydr neu deilsen.
Effeithiau
- Nid oes fawr o dystiolaeth o’i effaith tymor hir na’r risgiau o’i ddefnyddio
- Gwyddom fod NRG-1 yn cymell ewfforia, bod yn siaradus, bywiogrwydd ac empathi
- Cynnydd yn nhymheredd y corff, lleihau y gallu i ganolbwyntio ac achosi gwasgfa gên
Risgiau
- Pryder, paranoia a thueddiadau hunanladdol
- Gall NRG-1 achosi gor-symbyliad o’r galon a’r system gylchredol a gor-gynhyrfu’r system nerfol
- Hyperthermia a phwysedd gwaed uchel
- Gall y defnydd o NRG-1 arwain i ffitiau
- Mae’r cyffur hwn yn lleihau swildod a chymell teimladau gysglyd, coma, strôc neu anhunedd
- Marwolaeth. Mae’r risg o farwolaeth yn cynyddu drwy ei ddefnyddio gyda sylweddau eraill gan gynnwys alcohol.
Dosbarth
Dosbarth B