Mephedrone
Mephedrone (4 methylmethcathinone)
Enwau stryd
M-Cat. Meow Meow, 4-MMC, Bounce, Bubble, Charge, Drone, MC, Meph, Miaow, White Magic, Molly
Gwybodaeth Cyffredinol
Cyffur adfywiol tebyg i Ecstasi neu Speed.Daw fel powdr gwyn , lled-wyn neu felyn sydd fel arfer yn cael ei ffroeni ond gellir ei lyncu ar ffurf capsiwlau neu dabledi neu ei ‘fomio’ mewn cwdyn. Disgrifia’r defnyddwyr y teimlad o ‘ddod i fyny’ neu ‘rhuthr’ fel bo’r cyffur yn cael effaith. Mae’r effeithiau yn debyg i Amffetiminiau.
Effeithiau
- Teimlo’n effro
- Synwyr o dawelwch a lles
- Cyffro
- Symbyliad
- Hwyliau uchel
- Yn fwy siaradus
- Effeithiau yn para am tua awr, ond gall hyn amrywio
Risgiau
Mae cymryd Mephedrone yn golygu bod risgiau - mae’r effeithiau tymor hir yn dod yn gliriach wrth i adroddiadau ddod i’r amlwg. Dyma beth rydym yn ei wybod:
- Mae defnyddwyr yn adrodd iddynt gael bysedd glas neu oer- oherwydd bod Mephedrone yn dylanwadu ar y galon a’r cylchrediad.
- Mae rhai defnyddwyr yn dioddef gwaedu trwyn ar ôl ffroeni Mephedrone.
- Yn 2010 adroddwyd am chwe marwolaeth yn Lloegr a Chymru a oedd yn gysylltiedig â Mephedrone.
- Mae gor-boethi wedi bod yn achos sylweddol mewn marwolaethau pan ddefnyddir mathau o gyffur amffetamin megis ecstasi ynghyd â Mephedrone.
- Mae peryglon cynyddol i chi os ydych yn cymysgu Alcohol gyda Mephedrone neu unrhyw gyffur arall sy’n achosi ‘rhuthr’ - gan gynyddu’r risg o farwolaeth.
- Crampiau a sbasm cyhyrau
Dosbarth
Dosbarth B