GHB/GBL
GHB (Gammahydroxybutrate) GBL (Gammabutyrolactone)
Enwau ar y stryd
4-BD, GBH, GBL, Liquid Ecstasy
Gwybodaeth gyffredinol
Mae gan y cyffur hwn, a adnabyddir fel ‘Liquid Ecstasy’ ac sydd â’r enw cemegol Gammahydroxybutrate, effaith sedatif ac anaesthetig pwerus. Fel arfer caiff ei werthu fel hylif di-liw, diarogl gyda blas ychydig yn hallt mewn poteli bach neu gapsiwlau. Fe’i cysylltir gyda ‘sbeicio diodydd’ ac achosion o drais ac ymosodiadau rhywiol.
Effeithiau
- Ar ddosau isel mae’r effeithiau yn debyg i alcohol, gan wneud i’r defnyddiwr deimlo wedi ymlacio, yn sgwrsiog, fflyrtiog ac ychydig yn chwil
- Gyda dosau uwch gall defnyddwyr deimlo’n hapusach, yn fwy cyffyrddol ond hefyd yn fwy cysglyd
- Gyda dosau uwch fyth, mae defnyddwyr yn fwy tebygol o deimlo’n chwil, teimlo cyfog ac mewn perygl o ffitiau neu fynd yn anymwybodol
- Mae’r cyffur yn achosi’r cyhyrau i ymlacio
Risgiau
- Gall GHB a GBL wneud i’r defnyddiwr fynd yn anymwybodol, fynd i goma neu farw
- Mae’r perygl o farw, hyd yn oed ymhlith defnyddwyr profiadol
- Oherwydd y gall GHB a GBL eich gwneud yn llwyr anymwybodol, maent wedi eu cysylltu i ymosodiadau rhywiol gyda chymorth cyffuriau
- Pan gaiff ei gymysgu’n wael gall losgi’r geg
- Mae GBL/GHB yn arbennig o beryglus pan y’i defnyddir gydag alcohol gan fod y ddau’n gweithredu fel iselydd
Dosbarth
Dosbarth B