Barbitiwradau
Barbitiwradau
Enwau stryd
Barbs, Barbies, Blue bullets, Blue devils, Gorillas, Pink ladies, Red devils, Sleepers, Red birds, Rainbows, Yellow jackets
Gwybodaeth Cyffredinol
Cyffuriau synthetig yw barbitiwradau a ddefnyddiwyd yn rheolaidd ar gyfer pryder, iselder ac anhunedd. Fodd bynnag, maent yn hynod beryglus oherwydd y gwahaniaeth bychan sydd rhwng dos normal a gor-ddos. Maent yn achosi marwolaethau damweiniol ac fe’u defnyddiwyd mewn achosion o hunanladdiad. Cyffur yw barbitiwradau sy’n gweithredu fel iselydd ar y system nerfol canolog. Gallant fod â photensial i ddibyniaeth corfforol a seicolegol. Erbyn hyn mae barbitiwradau wedi eu disodli gan benzodiazepines ar gyfer rhai triniaethau meddygol arferol, er engrhaifft, mewn achosion pryder ac anhunedd, yn bennaf oherwydd fod benzodiazepine yn sylweddol llai peryglus mewn gor-ddos.
Effeithiau
- Sbectrwm eang o effeithiau, o lonyddu ysgafn i lonyddwch llwyr.
- Mewn dos bychan mae’r defnyddiwr yn ymlacio bod yn gymdeithasol ac mewn hwyliau da.
- Effeithiau tebyg i alcohol.
- Gall achosi pryder a gelyniaeth pan y cymerir mewn dos uwch.
- Lleferydd aneglur a cholli cyd-gordio
- Anymwybyddiaeth
Risgiau
- Dibyniaeth corfforol neu seicolegol
- Anafiadau yn digwydd drwy ddamweiniau dan effaith y cyffur
- Confylsiynau neu drawiadau
- Gor-ddos
- Marwolaeth
Dosbarth
Dosbarth B