Rydym ni yn SchoolBeat yn gweithio gydag Uned Atal Trais Cymru er mwy helpu pedwar heddlu Cymru i fynd i'r afael â throseddau cyllyll fel rhan o wythnos genedlaethol o weithredu, a elwir yn Ymgyrch Sceptre.
Dywedodd Jonathan Drake, Cyfarwyddwyr Uned Atal Trais Cymru:
“Nid yw troseddau cyllyll yn anochel – gellir eu rhagweld a'u hatal fel unrhyw broblem iechyd cyhoeddus.
“Er mwyn dileu troseddau cyllyll unwaith ac am byth, rhaid i ni gydweithio nawr i addysgu pobl am beryglon cario cyllell a chael darlun cywir o'r broblem. Rhaid i ni hefyd wneud yn siŵr bod y gefnogaeth gywir ar gael i ddioddefwyr a chyflawnwyr.”
Un peth sy'n glir ac sy'n peri pryder i ni yw bod rhai pobl ifanc yn credu bod cario cyllell yn eu gwneud yn fwy diogel. Mae hyn yn gwbl anghywir. Mae cario cyllell yn fwy tebygol o'ch rhoi mewn perygl am y gellir ei defnyddio yn eich erbyn.
Bydd Swyddogion SchoolBeat yn siarad â phobl ifanc ledled Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r effaith ddinistriol y gall cario cyllell ei chael, nid yn unig ar eu bywydau nhw ond ar fywydau ffrindiau a theulu ac eraill yn y gymuned.
Mae cryn dipyn o waith yn cael ei wneud i wneud Cymru yn fwy diogel ond, er mwyn datrys y broblem, mae'n rhaid i bawb fod yn rhan o'r ateb.
Os ydych yn pryderu am eich ymddygiad eich hun neu ymddygiad ffrind neu anwylyd, mae pobl y gallwch siarad â nhw ddydd a nos, 7 diwrnod yr wythnos, am ddim er mwyn cael cyngor a chymorth cyfrinachol ac anfeirniadol.
I gael rhagor o wybodaeth a manylion am wasanaethau cymorth, ewch i https://www.violencepreventionwales.co.uk/cy/cefnogaeth
Gallwch roi gwybod am bryder neu drosedd yn ddienw ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos drwy fynd i www.fearless.org/cy
Dywed y gyfraith:
Y newyddion da yw nad yw 99% o bobl 10-29 oed yn cario cyllell. Felly, mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol o beryglon cario cyllell. Ond, nid yw mor gyffredin ag y gallech chi feddwl.
Ymhlith y ganran fach o bobl ifanc sy’n dewis cario cyllell, mae’n rhan fwyaf ohonynt yn dweud eu bod yn gwneud hynny er mwyn diogelu eu hunain. Fodd bynnag, mae 7 o bob 10 unigolyn sy’n cael eu derbyn i Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ar ôl cael eu hanafu â chyllell wedi cael eu trywanu â’u cyllell eu hunain.
Os byddwch yn dewis cario cyllell, mae’n fwy tebygol: