Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

Blog Swyddogion: Troseddau Casineb

Mae’n Wythnos Cenedlaethol Ymwybyddiaeth Trosedd Casineb, a mae Blog Swyddogion SchoolBeat yn siarad am y pwyntiau pwysicaf.

Mae Swyddogion Heddlu Cymunedol Ysgolion yma i gynorthwyo y disgyblion hynny sy’n ddioddefwyr troseddau casineb, yn ogystal â helpu ysgolion wrth iddynt ymdrin â gwahaniaethu a rhagfarn.

Mae ein cymunedau yn well ac yn fwy diogel pan rydym yn trin ein gilydd â pharch.

Gellir gael help arlein gan siarad â Childline neu Meic Cymru a fydd yn cynnig arweiniad a chefnogaeth.

Efallai eich bod hefyd wedi clywed am Fearless. Mae cysylltu gyda Fearless.org yn hollol ddienw ac mae eu gwasanaeth arlein yn golygu bod person yn gallu rhoi gwybod am unrhyw drosedd neu unrhyw bryder sydd ganddynt. Fyddan nhw ddim yn cymryd unrhyw fanylion personol a fydd dim modd adnabod y person sy’n riportio.

Cofiwch hefyd bod yr heddlu ar gael i helpu hefyd pan fydd pethau’n mynd o le. Gellir cysylltu â’r Heddlu ar 101, neu 999 mewn argyfwng.

YOUTUBE https://www.youtube.com/watch?v=KeZgLaV5WEE

Blog Swyddogion SchoolBeat 10 - Troseddau Casineb (YouTube)
visit